Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Rwy'n gobeithio, felly, eich bod chi'n cytuno ein bod ni wedi gwneud cryn gynnydd o ran gwella sefyllfa plant yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at fynd i ddigwyddiad cenedlaethol ar wella sefyllfa plant ddydd Iau, lle bydd yna gyfle i rannu'r hyn yr ydw i wedi'i ddysgu, rhannu dulliau arloesol, a chydnabod y llwyddiannau. Ond yn bwysicaf oll, bydd yn gyfle i wrando a dysgu gan unigolion sydd â phrofiad personol o fod mewn gofal. Diolch, Dirprwy Llywydd.