– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: 'Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog'. Galwaf ar y Gweinidog, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y ffordd rydym ni'n cydweithio i wella sefyllfa plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.
Mae 'Symud Cymru Ymlaen', Dirprwy Lywydd, yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i archwilio ffyrdd o sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn mwynhau’r un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill, a diwygio’r ffordd y gofelir amdanynt os oes angen.
Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', hefyd yn disgrifio ein blaenoriaethau ynglŷn â chefnogi plant a theuluoedd sydd ar gyrion y maes gofal a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, yn enwedig wrth iddyn nhw ddatblygu i fod yn oedolion. Drwy fy rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant, rydym yn mynd ati mewn modd uchelgeisiol sy'n cwmpasu'r Lywodraeth gyfan a phob sector i'n helpu i wireddu ein blaenoriaethau a chyflawni ein hymrwymiad. Mae'r rhaglen hon, a gefnogir gan fy ngrŵp cynghori, dan gadeiryddiaeth ein cyd-Aelod Cynulliad David Melding, yn cwmpasu amrywiaeth eang o waith, gan roi sylw i'r holl sbectrwm gofal a chymorth, ond gyda phwyslais gwirioneddol ar fynd i'r afael â ffactorau a all arwain at yr angen i blant fod yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol.
Mae gan y grŵp cynghori gweinidogol gynrychiolaeth gan bob uwch arweinydd a sefydliad sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol o ran fy nghynghori ar, a chyd-gynhyrchu, y rhaglen waith gwella canlyniadau i blant, ac rwy'n falch bod ein partneriaid yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith hwn. Yn wir, roeddwn yng nghyfarfod diwethaf y grŵp cynghori gweinidogol, ac fe allwn i weld unwaith eto bod y dull cydweithredol hwn o weithio yn parhau i fod yn gryfder gwirioneddol sydd gan y grŵp.
Felly, beth ydym ni wedi ei gyflawni? Wel, fe gofiwch chi y llynedd ein bod ni wedi buddsoddi £9 miliwn i gefnogi plant sydd wedi cael y profiad o dderbyn gofal. Fe hoffwn i ddweud wrthych chi am rai o'r prif ganlyniadau o ran sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw gan awdurdodau lleol. Mae mwy na 1,900 o blant ledled Cymru sydd wedi bod drwy'r system gofal wedi cael arian drwy ein Cronfa Dydd Gŵyl Dewi £1 miliwn, i'w cefnogi wrth iddyn nhw drosglwyddo i fod yn oedolion ac i annibyniaeth. Roedd ein buddsoddiad o £5 miliwn mewn gwasanaethau gofal ymylol yn golygu bod awdurdodau lleol wedi helpu dros 3,600 o blant i aros o fewn yr uned deuluol, drwy weithio gyda mwy na 2,000 o deuluoedd. Mae gennym bellach wasanaethau gofal ymylol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at sefydlu gwasanaethau Adlewyrchu rhanbarthol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwasanaethau hyn wedi cefnogi 150 o rieni ifanc y mae eu plant wedi eu rhoi yn y system gofal gydag amrywiaeth eang o faterion emosiynol ac ymarferol. Mae hwn yn wasanaeth poblogaidd, ac rydym yn disgwyl gweld nifer y rhai sy'n cael eu hatgyfeirio yn codi yn sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni hefyd wedi darparu £1 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth o gynghorwyr personol, fel bod pawb hyd at 25 oed sy'n gadael gofal, waeth beth fo'u hamgylchiadau, yn cael cynnig cynghorydd personol. O ganlyniad, mae 20 o gynghorwyr personol ychwanegol wedi eu recriwtio erbyn hyn, ac mae mwy na 500 o'r rhai sy'n gadael gofal wedi derbyn y cynnig estynedig. Ac yn olaf, mae'r rhai sy'n gadael gofal wedi cael cymorth i fanteisio ar gyfleoedd mewn addysg, gwaith a hyfforddiant, gyda 70 o bobl ifanc yn cael lleoliad gwaith drwy'r awdurdod lleol neu'n mynd ar gynllun hyfforddeiaeth. Mae'r rhain yn ganlyniadau real, mesuradwy, sy'n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc.
Rydym ni wedi gwneud cynnydd gyda meysydd gwaith eraill. Er enghraifft, ym mis Mai eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi ymchwil ar ganlyniadau lleoliadau i blant ar ôl gorchymyn gofal terfynol. Roedd yr ymchwil pwysig hwn yn dangos bod dros dri chwarter y plant yn yr astudiaeth yn sefydlog iawn o ran lleoliadau yn ogystal â nodi profiadau cadarnhaol eraill o ofal. Rydym ni hefyd wedi datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol ac ar gyfer ymwelwyr annibynnol i sicrhau ansawdd a chysondeb y gwasanaeth. Ac fe wnaethom ni ariannu blwyddyn gyntaf gweithredu'r fframwaith maethu cenedlaethol. Rwy'n falch iawn bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi cyhoeddi ymgynghoriad yr wythnos diwethaf ynglŷn ag eithrio bawb sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor fel bod gennym ni gysondeb ledled Cymru.
Mae hyn i gyd yn gynnydd da, ond mae mwy eto i'w wneud. Cyn yr haf, gofynnais am y rhaglen waith i gael ei chyflymu a'i dwysáu, i hwyluso cyflawni yn erbyn yr heriau allweddol, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn 'Adolygiad o Ofal mewn Argyfwng'. O ganlyniad, mae'r rhaglen waith gwella canlyniadau ar gyfer plant wedi ei hadnewyddu. Mae'r trydydd cam hwn o'r rhaglen yn parhau llawer o'r gwaith pwysig sydd eisoes ar y gweill, ond mae'n rhoi mwy o bwyslais ar leihau'r angen am ofal drwy ddarparu cymorth effeithiol, ataliol a chynnar i deuluoedd, yn ogystal â sicrhau bod cefnogaeth therapiwtig i blant a theuluoedd yn hanfodol drwy gydol y rhaglen. Er mwyn llywio'r cam hwn, mae fy swyddogion yn cynnal ymchwiliad gwerthfawrogol ar draws chwe awdurdod lleol. Mae'r ymchwiliad yn tynnu sylw at waith cymdeithasol ataliol da a chymorth i deuluoedd a ddarperir gan awdurdodau lleol. Roedd pob awdurdod lleol yn dangos bod ganddyn nhw systemau gofal integredig lle mae timau aml-asiantaeth yn darparu cymorth amserol i deuluoedd fel y gallai argyfyngau gael eu lleihau neu eu hosgoi, gan helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel. I ddangos hyn, un enghraifft oedd defnyddio cyfarfodydd grŵp teulu. Mae hyn yn ddull sy'n canolbwyntio ar y teulu sy'n galluogi plant, pobl ifanc, yn ogystal ag aelodau'r teulu ehangach, i gymryd rhan a rhoi eu hatebion eu hunain a fydd yn gwella eu hamgylchiadau. Mae hyn yn gydnaws â'n dull cydgynhyrchu, sy'n ganolog i'n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae buddsoddi mewn dulliau ataliol ac ymyraeth gynnar o'r fath yn sicrhau arbedion yn y tymor hir.
Yn rhan o gynigion y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ar gyfer 2019-20, dyranwyd £30 miliwn yn ychwanegol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i helpu i gryfhau'r trefniadau integreiddio hyn. Heddiw, rwyf yn falch o gyhoeddi y bydd £15 miliwn o'r arian hwn yn cael ei ddyrannu i symud ymlaen ein huchelgais a rennir o leihau'r angen i blant fod yn derbyn gofal. Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol er mwyn newid y system gyfan.
Hoffwn i awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a byrddau iechyd weithio gyda'i gilydd i ddefnyddio'r gronfa hon mewn modd hyblyg a chreadigol ar draws eu rhanbarthau. Fy nisgwyliad yw y bydd yr arian hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ar gyfer teuluoedd sydd angen cefnogaeth a chymorth, gan adeiladu ar y dulliau y gwyddom eisoes sydd yn helpu teuluoedd i osgoi sefyllfaoedd argyfwng. Ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal, rwyf eisiau sicrhau bod gennym ar waith y gwasanaethau therapiwtig sydd eu hangen i'w helpu i aduno â'u teuluoedd yn llwyddiannus pan fo hynny'n briodol.
Cyn imi orffen, hoffwn atgoffa pawb ei bod hi'n Wythnos Diogelu Genedlaethol. Rwyf yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Stop It Now! Cymru i lansio ymgyrch newydd, a fydd yn helpu i annog pobl Cymru i chwarae eu rhan wrth atal cam-drin plant yn rhywiol.
Rwy'n gobeithio, felly, eich bod chi'n cytuno ein bod ni wedi gwneud cryn gynnydd o ran gwella sefyllfa plant yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at fynd i ddigwyddiad cenedlaethol ar wella sefyllfa plant ddydd Iau, lle bydd yna gyfle i rannu'r hyn yr ydw i wedi'i ddysgu, rhannu dulliau arloesol, a chydnabod y llwyddiannau. Ond yn bwysicaf oll, bydd yn gyfle i wrando a dysgu gan unigolion sydd â phrofiad personol o fod mewn gofal. Diolch, Dirprwy Llywydd.
Rwy'n siarad fel cadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog, sy'n gwneud fy ymateb o feinciau'r Ceidwadwyr ychydig yn afreolaidd. Felly, bydd gennyf gyfuniad doeth o ddwy swyddogaeth, rwy'n credu. Ond mae'n bwynt difrifol yn y fan yma fy mod i'n credu bod gwaith yn y maes hwn, sy'n heriol iawn, ond y mae llawer o arfer da a chanlyniadau da i'w gweld hefyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol cael dull amhleidioli i'r graddau mwyaf posibl, ac rwy'n credu bod y gwaith hwn drwy gydol oes y Cynulliad wedi cyrraedd y consensws hwnnw, a'r angen i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc yr ydym ni'n gofalu amdanynt.
Rwy'n credu, Gweinidog, eich bod yn iawn i bwysleisio bod grŵp cynghori'r Gweinidog yn awr yn dod at gyfnod allweddol, ac mae hyn wedi gofyn am ddiweddaru'r rhaglen waith. Hoffwn ddweud ychydig am hynny mewn munud. Mae'n adlewyrchu, mewn gwirionedd, rwy'n credu, tymor pum mlynedd y gwaith. Y cam cychwynnol i raddau helaeth iawn oedd llenwi'r bylchau data, comisiynu rhai astudiaethau gwirioneddol bwysig—rydych chi wedi cyfeirio at un a oedd yn dangos y canlyniadau da a fesurwyd ar ôl gorchymyn gofal terfynol, ac mae tua 75 y cant o blant yn teimlo eu bod wedi elwa. Felly mae'n sector, yn aml, a bortreadir gan ei broblemau, oherwydd weithiau mae pethau'n digwydd sy'n ddinistriol iawn, ac yn gwbl briodol yn destun newyddion, ond ceir llawer iawn o arferion da ar lawr gwlad, ac mae a wnelo hyn i raddau helaeth ag adeiladu ar hynny.
O ran y rhaglen waith newydd a'i hychwanegiadau a'r datblygu, a gaf i ddiolch i Phil Evans, cyd-gadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog a chyn-gyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol ym Mro Morgannwg, a hefyd y swyddogion yn eich adran, sydd wedi cynhyrchu'r cynllun gwaith? Mae wedi golygu llawer iawn o waith. Fe'i lluniwyd gan grŵp cynghori'r Gweinidog, ond roeddem ni'n dal i fod angen gweithgarwch y grŵp gweithredu, a arweinir gan Phil Evans, i'w gasglu ynghyd. I raddau helaeth mae'n ddadansoddiad o'r gwaith presennol a'r hyn a gyflawnwyd, yn adlewyrchiad o'r data a'r adroddiadau yr wyf newydd eu crybwyll, ac ymgynghori helaeth. Mae'n rhaid imi ddweud bod yr ymdrechion ymgynghori yn cael cymorth mawr gan y cyd-gadeirydd arall, Dan Pitt, Voices From Care, ac yn wir mae holl gydweithio grŵp cynghori'r Gweinidog mewn gwirionedd wedi bod yn bosibl oherwydd y rhan helaeth a chwaraewyd gan amrywiol adrannau Llywodraeth Cymru sydd â swyddogaeth allweddol yn y grŵp—tai ac iechyd y cyhoedd, er enghraifft—gwasanaethau plant awdurdodau lleol, a hefyd yr arweinyddion cabinet a sefydliadau anllywodraethol—y trydydd sector. Rwy'n credu mewn difrif fod hyn wedi rhoi i'r grŵp yr egni a'r gallu i siarad â chi gydag awdurdod a darparu'r cyngor trylwyr hwnnw sydd ei angen mewn gwirionedd.
Mae'r rhaglen bellach yn adlewyrchu pwysigrwydd atal a chymorth cynnar, a, hefyd, pethau y mae wedi penderfynu eu pwysleisio a oedd naill ai yn y cynllun gwaith ond ddim yn ddigon amlwg, neu sydd bellach wedi cael eu hamsugno i'r cynllun gwaith, a dim ond sôn am y newidiadau yr wyf i yma. Ond roedd y pwyslais ar wasanaethau therapiwtig, rwy'n credu, i raddau helaeth wedi ei sbarduno gan adroddiad Lynne Neagle neu adroddiad y pwyllgor y mae Lynne yn gadeirydd arno, 'Cadernid meddwl', a gafodd effaith fawr ar y drafodaeth yr oedd y grŵp cynghori'r Gweinidog yn ei chael, a phwysigrwydd gwasanaethau therapiwtig yn gysylltiedig â lles emosiynol, y cyfeirir ato drwy'r amser gan blant sy'n derbyn gofal fel rhywbeth y maen nhw wirioneddol ei angen, ac mae hynny'n lefel o gymorth.
Maes arall a oedd yn gymharol newydd i mi, mae'n rhaid imi ddweud, ond sydd efallai wedi ei esgeuluso, yw faint o ofal a roddir gan berthnasau. Ac mae hynny'n adnodd—mae gan lawer o wledydd bolisi yn sicr i wneud hynny'n fwy o adnodd. Ond, yn sicr, caiff ei ddefnyddio, mae'n briodol iawn mewn achosion penodol, ac efallai nad ydym ni wedi bod mor graff yn y maes hwn yn y modd y gallwn ni gefnogi gofalwyr sy'n berthnasau.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd wedi dylanwadu ar waith grŵp cynghori'r Gweinidog yn sylweddol iawn, ac rwy'n gwybod bod hynny'n nodwedd bwysig i chi hefyd.
Mae'r broblem o ddigartrefedd i'r rhai sy'n gadael gofal yn un fawr iawn, ac mae sut yr ydym ni'n cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal gyda'u tenantiaethau yn amlwg yn elfen hollbwysig o'n swyddogaeth fel rhieni corfforaethol, gellid dweud. Ac rwy'n falch bod gwaith wedi'i gomisiynu gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, ac rwy'n credu y bydd hynny'n gymorth mawr. Credaf, o ran y rhai sy'n gadael gofal, bod y sefyllfa dai yn un mor hanfodol â'r sefyllfa addysg a chyrhaeddiad addysgol ar gyfer y rhai sydd mewn gofal pan fyddan nhw'n cael addysg ffurfiol.
Ac yna mae'r fframweithiau profiad niweidiol yn ystod plentyndod wedi dod i chwarae rhan fawr mewn dod â sawl gwahanol elfen o waith grŵp cynghori'r Gweinidog at ei gilydd.
A gaf i groesawu'r cyllid hefyd? Mae'r £9 miliwn a lansiodd y rhaglen ddwy flynedd yn ôl yn cael effaith fawr, rwy'n credu, ar awdurdodau lleol i ddatblygu arfer gorau, ac rwy'n credu ei fod yn arwydd cadarnhaol iawn bod ffynhonell arianol arall ar gael.
Ac a gaf i ddim ond dweud, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn dod i'r amlwg yw cysyniad llawnach o swyddogaeth rhianta corfforaethol? Sy'n golygu pob asiantaeth gyhoeddus, ond hefyd yn y maes gwleidyddol—yn amlwg, mae gennych chi swyddogaeth arweinyddiaeth yn y maes hwnnw, ond mae hefyd yn golygu eich cyd-weithwyr, a ninnau hefyd fel Aelodau yn craffu ar y Llywodraeth, a'i phartneriaid allweddol, gwleidyddion yn y cyngor—yr arweinyddion cabinet a chadeiryddion pwyllgor sy'n gwneud y gwaith craffu. A dylai'r holl gynghorwyr, does bosib, neu dylai'r holl gynghorau ddilyn penderfyniad Cyngor Caerdydd i hyfforddi bob cynghorydd ym materion plant sy'n derbyn gofal. Ac maen nhw'n gwneud cynnydd ar hynny. Efallai ddim mor gyflym ag y byddent yn ei hoffi, ond dyna'r math o arweinyddiaeth y mae angen inni ei weld mewn gwirionedd yn dod i'r amlwg i roi darlun llawn inni o rianta corfforaethol. Diolch.
Fe wnes i roi ychydig o benrhyddid i'r aelod yn y fan yna, o gofio ei fod yn cadeirio'r gweithgor gweinidogol—y grŵp gorchwyl, ond nid yw'r un penrhyddid hwnnw yn berthnasol i weddill y siaradwyr, mae arnaf i ofn. Nac i'r Gweinidog wrth iddo ddirwyn i ben ychwaith.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Fe wnaf i gadw fy ymateb yn fyr iawn, iawn. Yn sicr, cryfder mawr ein ffordd o weithio yw ei bod hi'n traws-lywodraethol, yn draws-sector, ond hefyd yn amhleidiol. Mae hon yn agenda y mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae ynddi, ac mae angen i bob un ohonom ni ddod â'n profiad a'n gwybodaeth a'n dealltwriaeth, gan gynnwys, gyda llaw—ac rwy'n croesawu eich geiriau o deyrnged i'ch dau gyd-gadeirydd—gyda'r cyd-gadeirydd sydd ei hun â phrofiad o'r byd gofal. Rwy'n credu bod hynny'n hanfodol yn hyn i gyd. Dyma gyd-gynhyrchu mewn difrif yn unol â'r fframwaith cyfreithiol yr ydym ni wedi ei sefydlu. Nid Llywodraeth yn teyrnasu ar bobl yw hyn, ond Llywodraeth yn gweithio gyda phobl i lunio atebion cywir. Rwy'n cymeradwyo'n llwyr y gwaith sydd wedi'i wneud eisoes gan grŵp cynghori'r Gweinidog ac mae'n cael effaith eisoes. Rydym ni'n gweld hynny yn y dystiolaeth sy'n dod i law, heb unrhyw amheuaeth. Ond mae'r amlygrwydd yn awr a'r flaenoriaeth a roddir i ffrydiau gwaith penodol, yn ogystal â rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau therapiwtig—mae gennym ni lawer mwy i'w wneud ar hynny. Rwy'n credu bod gwaith cyffrous y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn ei wneud ac y mae angen i'r Llywodraeth ei gyflwyno yn y maes hwnnw hefyd, gwasanaethau therapiwtig yn gyffredinol ond gwasanaethau therapiwtig hefyd fel y gallent fod yn berthnasol i ofal preswyl yn benodol, gofal gan berthnasau a phontio i fyw'n annibynnol a chanlyneb hynny, sef digartrefedd, os na wnawn ni hyn yn iawn.
Bydd cyllid yn helpu, yn sicr, ond dim ond i ymateb i'r sylw a wnaed ynglŷn â rhianta corfforaethol ac i dalu teyrnged i David yn arbennig, sydd wedi arwain yr agenda ynghylch rhianta corfforaethol i raddau helaeth iawn, mae gan bob un ohonom ni swyddogaeth—pob unigolyn, pob un sy'n craffu, pob swyddog llywodraeth leol, yr uwch-arweinydd, pennaeth y gyfarwyddiaeth. Mae gan bob un ohonom ni swyddogaeth i wneud ein dyletswydd yn awr er mwyn rhoi canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn y system gofal. Ac mae hynny'n dechrau digwydd ac rydym ni yn ei wneud oherwydd ceir agenda gyffredin erbyn hyn ac mae angen inni gynnal y momentwm hwn. Nid y cyllid fel y cyfryw a fydd yn gweddnewid hyn, ond y ffaith inni ganolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth pwysig y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn eu datblygu, a chan bobl eraill sy'n dweud, 'Dyma beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth.' Bydd y cyllid yn helpu.
A gaf i ddechrau drwy ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r datganiad? Rwyf yn falch iawn o weld faint o gynnydd sy'n cael ei wneud yn y maes pwysig iawn hwn. Wrth gwrs, ni fyddem yn disgwyl llai, yn enwedig gyda fy nghyfaill David Melding yn cadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod ei ymrwymiad i les plant, yn enwedig plant agored i niwed a phlant mewn gofal, yn hollbwysig. Hoffwn ategu'r hyn a ddywedodd David a beth ddywedodd y Gweinidog am bwysigrwydd ymagwedd amhleidiol ynghylch y materion hyn.
Rwyf hefyd yn falch iawn, Gweinidog, o weld nad oes unrhyw hunanfoddhad yn y fan yma, a'ch bod chi'n cydnabod yn glir iawn bod mwy o waith i'w wneud. Fe godaf un neu ddau o gwestiynau yn y cyd-destun hwnnw. Ni ofynnaf ichi roi sylwadau ar achos penodol, ond rydym ni'n ymwybodol bod rhai awdurdodau lleol yn gwneud yn well yn y maes hwn nag eraill. Yn fy rhanbarth i, mae gennyf i rai pryderon o hyd ynghylch Powys, a gobeithiaf y gall y Gweinidog dawelu ein meddyliau heddiw, er ein bod yn gweithio'n galed iawn ar y dull o weithredu cydweithredol hwn, na fydd unrhyw faddeuant os gwelir bod unrhyw bartneriaid yn esgeuluso'r plant a phobl ifanc hyn sy'n agored i niwed.
Nid yw'r datganiad ei hun yn gwneud unrhyw gyfeiriad penodol at fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau i ddatblygu polisi yn y maes hwn. Efallai'n wir, Gweinidog, fod hyn oherwydd eich bod chi'n cymryd hyn yn ganiataol, ond o gofio pa mor anodd y gall hi fod i brif ffrydio'r dull o weithredu yn seiliedig ar hawliau i waith gyda phlant ar draws y sector cyhoeddus, hoffwn roi'r cyfle i chi gadarnhau bod y dull seiliedig ar hawliau yn ganolog i'r ffordd yr ydych yn datblygu eich polisi a'ch disgwyliadau o ran pobl eraill a gwaith y grŵp cynghori gweinidogol, ac i ymrwymo, efallai, i wneud hyn yn fwy eglur yn y dyfodol. Oherwydd tra bo hynny efallai'n dod yn naturiol i rai ohonom ni yn y Siambr hon, ceir llawer o rai eraill sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd yn anffodus yn parhau i fod heb eu hargyhoeddi.
Croesawaf yn fawr iawn y gwaith a wneir i alluogi plant sydd mewn perygl o gael eu rhoi mewn gofal i aros gyda'u teuluoedd pan fo hynny'n bosibl ac yn ddiogel. Fodd bynnag, dangoswyd gwaith achos etholaethol i mi ac rwy'n pryderu y ceir achosion o hyd pan fydd achos cyfreithiol yn arwain at blentyn yn cael ei symud yn ôl a blaen rhwng rhieni biolegol sy'n anffodus yn methu ag ymdopi, a rhieni maeth, ac mae hyn yn gohirio canlyniadau mabwysiadu sef yr hyn a fyddai orau i'r plentyn. A wnewch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r gwasanaethau llys teulu gyda'r bwriad o leihau nifer y troeon pan fydd hyn yn digwydd, o gofio pa mor niweidiol yw hynny i blant agored iawn i niwed, a phlant ifanc iawn, yn aml?
Croesawaf yn fawr iawn y buddsoddiad—mae'r £15 miliwn i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod yn ystyried lleihau'r angen i blant gael eu rhoi mewn gofal. Fe fyddem ni i gyd yn croesawu hynny, ond a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, eich bod yn disgwyl i'r arian newydd hwn greu gwasanaethau cynaliadwy? O ystyried y pwysau sydd ar gyllid Llywodraeth Leol, yn aml iawn defnyddir buddsoddiad da i roi hwb cychwynnol i waith cadarnhaol ond wedyn nid oes yr adnoddau i barhau â'r rhaglenni arloesol, er enghraifft, hyd yn oed pan geir tystiolaeth eu bod yn gweithio. Felly, a wnewch chi ein sicrhau ni heddiw nad taliad untro yw'r £15 miliwn hwn ac y bydd yn bosibl cynnal y gwasanaethau newydd hynny?
Gweinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r nifer fawr o gartrefi plant preifat, yn enwedig yng Nghymru wledig, sy'n cynnig llety i bobl ifanc sy'n agored iawn i niwed y tu allan i'r sir, yn aml iawn o ddinasoedd mawr yn Lloegr. Mae rhai o'm hetholwyr wedi codi pryderon ynglŷn â rhai o'r rhain, yn enwedig pan fyddan nhw mewn lleoliadau gwledig ynysig iawn. A allwch chi gadarnhau i ni heddiw eich bod yn fodlon bod y drefn arolygu a rheoleiddio presennol yn ddigonol i ddiogelu buddiannau'r plant hyn sy'n derbyn gofal? Efallai nad ein plant ni sy'n derbyn gofal bob amser, ond fy marn i, ac yr wyf yn siŵr eich barn chithau hefyd, yw, tra byddan nhw yng Nghymru, bod gennym ni'r un ddyletswydd gofal â'r hyn sydd gennym ar gyfer plant sy'n hanu o Gymru. A wnewch chi ystyried ysgrifennu at yr Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch y trefniadau ar gyfer yr arolygiadau hynny, fel y gallaf dawelu meddwl fy etholwyr sydd wedi codi pryderon gyda mi?
Ac yn olaf, rydych chi'n cyfeirio yn y datganiad at wrando a dysgu oddi wrth y rhai sydd wedi cael profiadau uniongyrchol o fod mewn gofal. Rwyf yn falch iawn o weld bod y grŵp gweinidogol yn cael ei gadeirio ar y cyd gan rywun sydd â phrofiad o ofal, ond a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i ddweud ychydig mwy wrth y Cynulliad am sut y mae unigolion â phrofiad o ofal, ac yn enwedig plant a phobl ifanc sydd ar hyn o bryd mewn gofal neu mewn perygl o gael eu rhoi mewn gofal, wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu'r polisi hwn a sut y bydd hynny yn parhau i fod yn ganolog i'r gwaith?
Helen, diolch yn fawr iawn am y sylwadau manwl yna. Gadewch imi ddechrau lle y gwnaethoch chi ddechrau: ein disgwyliad yw y dylai'r holl awdurdodau lleol a'r rhai sy'n darparu cymorth godi i lefel y goreuon. Fe wyddom ni, fel y clywsom gan gadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn gynharach, fod arfer da iawn ar gael; rydym ni wedi dwyn hynny i'r amlwg ein hunain. Rydym ni'n disgwyl i hynny fod yn arfer safonol.
O ran y dull seiliedig ar hawliau—mewn rhai ffyrdd, gallai hyn fod yn rhagflas o ddadl yn ddiweddarach y prynhawn yma hefyd, pryd y byddaf yn ymhelaethu ar y dull seiliedig ar hawliau, ond mae'r dull seiliedig ar hawliau wrth wraidd y rhaglen hon hefyd. Mae'r comisiynydd plant, sy'n aelod o'r grŵp, wedi sicrhau hyn, a dyna ein dymuniad ni. Felly, er na chafodd ei grybwyll yn benodol yn y datganiad, hwn yn ddiau yw craidd y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y Llywodraeth ac yn y grŵp ei hun. Fe gewch chi'r sicrwydd hwnnw.
Rydym yn cael trafodaethau rheolaidd, ar lefel swyddogol, ond hefyd gyda'r rhai sy'n cymryd rhan uniongyrchol yn y gwasanaeth llysoedd teulu, ac mae'r gwasanaeth llys teulu ei hun, yn rhannol mewn ymateb i waith grŵp cynghori'r Gweinidog, wedi adnewyddu ei ymagwedd tuag at blant sydd wedi cael profiad o ofal dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn disgwyl iddo barhau i ddysgu, yn rhannol, mae'n rhaid imi ddweud, o'r 'Adolygiad Gofal Argyfwng' hefyd. Roedd yr 'Adolygiad Gofal Argyfwng' yn ddefnyddiol iawn gan iddo ddweud nad oes un fwled hud ar gael—ceir amrywiaeth o bethau sydd eu hangen er mwyn ichi ei godi i'r safon orau un, nid yn unig o ran cefnogaeth a darpariaeth ar lefel awdurdod lleol, ond yn y ffordd y mae'r llysoedd teulu hefyd yn ymateb i achosion ac i beidio â chael anghyfartaledd rhanbarthol mawr yn y ffordd y mae llysoedd teulu yn ymateb i hyn.
Fe wnaethoch chi sôn am sicrwydd atebion cynaliadwy ac ariannu—yn bendant. Nawr, mae hyn yn ymwneud yn rhannol â sicrhau bod yr arian yn mynd i'r lle iawn. A'r rheswm dros gael y cyhoeddiad heddiw ynghylch y £15 miliwn yn mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, yw eu bod wedi'u sefydlu'n uniongyrchol i wneud hynny ar sail dweud, 'Beth yw'r anghenion yn ein rhanbarth ni? Sut mae gwneud hyn yn y ffordd orau?' Gweithio ar y cyd, er mwyn sicrhau nad yw bellach yn ymwneud â photiau o arian, mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar ganlyniadau'r plant hynny sydd â phrofiad o ofal. Ond mae hefyd angen atebion cynaliadwy yn ogystal ag ariannu cynaliadwy, ac mae hynny'n gofyn am rywfaint o ymagweddau creadigol ac arloesol tuag at weithio ar y cyd. Ac un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud yw ymgorffori'r ffyrdd hynny o weithio ar draws gwahanol asiantaethau—awdurdodau lleol, iechyd ac eraill—i wneud yn siŵr eu bod yn cyflwyno atebion sy'n para'n hir oherwydd eu bod yn fwy ataliol, yn fwy cynnar yn y ffordd y maen nhw'n ymyrryd ac mewn modd mwy amserol. Mae hynny'n rhan o'r cynaliadwyedd hefyd.
Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais i Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynghylch ein hymagwedd tuag at y drefn arolygu a rheoleiddio, ond hefyd fe wnaethoch chi godi'r mater o ofal preswyl i blant, ac mae hyn yn ymddangos yn aml, ac fe wn i ei fod yn un o'r pethau y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn edrych arno: a yw nid yn unig y llety diogel gennym, ond mewn gwirionedd, y tu hwnt i hynny, a oes gennym ni'r lleoliadau llety â gofal therapiwtig yn y lleoedd iawn ym mhob rhan ledled Cymru? Rydym yn credu bod tipyn o waith i'w wneud ynghylch hynny, felly rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu dulliau newydd o weithredu ar gyfer therapi a gofal ar gyfer plant ag anghenion arbennig cymhleth ac ymddygiadau heriol. Efallai nad oes angen sicrhau llety diogel ar eu cyfer, ond yn hytrach, model gwahanol, pwrpasol. Felly, rydym ni'n ystyried y posibiliadau o ddulliau rhanbarthol ar gyfer y math hwn o ddarpariaeth er mwyn osgoi effaith un plentyn mewn un awdurdod wedyn yn cael effaith aruthrol, ac maen nhw'n edrych o amgylch mewn anobaith a dweud, 'Wel, ble allwn ni osod y plentyn hwn?' Ac yn aml mae hynny'n golygu y tu allan i'r sir neu weithiau y tu allan i'r wlad. Felly, mae grŵp gorchwyl a gorffen yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar ofal preswyl i blant, a gobeithiwn y bydd nid yn unig yn gwella ein dealltwriaeth o broffil gofal preswyl ar gyfer plant, ond hefyd yn cyflwyno syniadau ar gyfer gwella'r amrywiaeth o fodelau therapiwtig sydd ar gael i ddarparwyr gofal preswyl. Ond rwy'n credu bydd ymagwedd ranbarthol yn hyn o beth yn allweddol.
Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â'r materion i gyd.
Dylai fod yn iawn, diolch. Jenny Rathbone.
Diolch. Mae rhianta corfforaethol yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, felly rwyf i'n cytuno'n llwyr â sylwadau David Melding a Helen Mary ar y mater hwn.
Neithiwr, bûm mewn cinio a drefnwyd gan y gyfadran gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlu, ynghyd â'm cyd-Aelodau Julie Morgan ac Angela Burns. Gwnaed hynny o dan reol Chatham House pryd yr oedd popeth yn aros yn yr ystafell, ond cefais fy syfrdanu'n wirioneddol o glywed, mewn un awdurdod lleol yng Nghymru, bod bron bob un o'r plant a oedd â phrofiad o ofal yn dod o 10 teulu, ac mae hynny oherwydd ein bod ni wedi methu â darparu'r gwasanaeth sydd ei angen i sicrhau nad yw pobl yn mynd ymlaen i gael mwy o blant. Felly, roeddwn i'n falch iawn o weld eich bod nawr yn mynd i gael gwasanaethau Reflect rhanbarthol, oherwydd dyna beth yw'r gwasanaethau hyn; nid yw'n ymwneud â chefnogi teuluoedd i gael eu plentyn a symudwyd o'i gartref, yn ôl, ond eu galluogi i ystyried y rhesymau pam y rhoddwyd y plentyn hwnnw mewn gofal yn y lle cyntaf.
Nid wyf i'n meddwl llawer o'ch disgrifiad ohono fel gwasanaeth 'poblogaidd'. Yr hyn yr wyf i eisiau ei wybod yw a yw'r gwasanaeth yn effeithiol. Rwy'n credu ei fod yn dibynnu llawer iawn ar ansawdd yr allgymorth i sicrhau bod y rhai sydd angen y gwasanaeth fwyaf, mewn gwirionedd, yn ei gael, yn hytrach na throi cefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw gael mwy a mwy o blant, mewn cylch dieflig.
Roedd yn ddiddorol gweld yr ymchwil a wnaed ar leoliadau a'r canlyniadau cadarnhaol, ond allan o 42 o ddisgyblion yn yr ysgol lle'r wyf i'n llywodraethwr, sydd, rwy'n ofni yr uchaf yng Nghymru, mae tri wedi newid lleoliad eisoes, ond, rwy'n falch o ddweud, nid newid ysgol. Felly, o leiaf ceir rhywfaint o gysondeb a sefydlogrwydd yn eu bywydau y gellir eu darparu yn yr ysgol.
Rwy'n credu mai'r peth arall sydd wedi bod yn bwysig iawn o ran gwaith cymdeithasol cydgysylltiedig ac ataliol yw bod cael gweithiwr cymdeithasol wedi ei leoli yn yr ysgol wedi ei alluogi i gael gafael ar wybodaeth bwysig am gefndir y person ifanc mewn modd amserol, heb mewn unrhyw ffordd dorri rheolau diogelu data. Felly, rwy'n credu bod angen inni wneud llawer mwy o'r math hwn o beth. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod yn mynd i ddyrannu £15 miliwn mwy i leihau'r angen i blant fod mewn gofal, ond mae'n rhaid inni gydnabod ein bod ar wahân ar hyn o bryd—95 ymhob 10,000 o ddisgyblion/plant o'i gymharu â 62 ymhob 10,000 yn Lloegr—felly, nid oes lle i laesu dwylo yn hyn o beth.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni—. Cafodd pwysigrwydd yr ysgol, mae'n ymddangos i mi, ei adlewyrchu yn natganiad Kirsty Williams am bwysigrwydd llesiant, sydd yr un mor bwysig â chyflawni'n academaidd, a dathlu gwaith a wneir gan ysgolion. Felly, rwy'n credu bod gan y fframwaith canlyniadau cenedlaethol fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddim ond un dangosydd o ran plant â phrofiad o ofal, sy'n ymwneud â'r cymwysterau allanol y maen nhw'n eu cael pan fyddan nhw yn 16 oed. Rwy'n credu bod angen mwy o ddangosyddion o'r math o waith arbenigol y gall ysgolion ei wneud i gyfrannu at hynny mewn gwirionedd.
Mae bod mewn gofal yn brofiad andwyol mewn plentyndod; ni allai ar unrhyw sail fod fel arall. Felly, mae'r niferoedd bach sydd gennym ni yn golygu yn sicr y dylem ni fod yn sicrhau bod yr holl bobl ifanc hynny yn cael mynediad priodol i wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau cwnsela er mwyn iddyn nhw allu prosesu'r trawma y maen nhw wedi ei ddioddef. Rwy'n credu'n gryf bod angen inni sicrhau yn yr holl awdurdodau lleol bod y bobl ifanc hyn i gyd yn cael y gwasanaethau hynny y maen nhw eu hangen, neu fe fyddan nhw'n dod yn rhieni i blant â phrofiad o ofal eu hunain, a dyna'r cylch dieflig y mae'n rhaid inni ei dorri. Fel arall, fe fydd cost ariannol i'r awdurdodau lleol na allwn ei dalu, oherwydd dangosodd yr ymchwiliad a wnaed gan bapur newydd cenedlaethol ynghylch lefel y costau ar gyfer gofal arbenigol iawn—£7,000 yr wythnos—a'r gwir bryderon ynghylch arwerthu plant sy'n agored i niwed—. Yn amlwg, mae'n rhaid inni roi terfyn ar hynny ac mae angen inni edrych yn fanwl i weld sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn lleihau'r niferoedd a sicrhau na fydd y rhai sydd â phrofiad o ofal yn colli eu plant eu hunain.
Diolch, Jenny. Rydych chi'n ein hatgoffa'n briodol bod angen inni edrych ar y profiad gofal cyfan yn y fan yma mewn gwirionedd. Y bobl hynny, plant a phobl ifanc sydd mewn gofal—mae angen inni roi'r blaenoriaethau cywir er mwyn iddyn nhw wella eu canlyniadau—y rhai sy'n gadael gofal, ond hefyd i ganolbwyntio ar, fel y mae'r ffrwd waith Rhif 1 nawr, sut ydym ni'n lleihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Oherwydd fe wyddom ni os gallwn ni gyflawni ymyraethau cynnar cywir—ac mae hynny'n cynnwys rhai elfennau o gefnogaeth ehangach sy'n gallu nodi problemau yn gynnar a gweithredu'r dull amlasiantaeth yn gynharach—yna byddwn ni'n arbed y costau hynny ymhellach ymlaen er mwyn eu rhyddhau a'u rhoi tuag at blant sy'n derbyn gofal, ac ati. Ond rwy'n falch eich bod yn croesawu'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud gyda'r gwasanaethau Reflect rhanbarthol a'r ffordd yr ydym yn rhagweld y bydd defnydd sylweddol yn cael ei wneud o hyn, oherwydd rydym ni'n dechrau gweld tystiolaeth eisoes ei fod yn effeithiol a disgwyliwn weld mwy. Dyma'r ffordd iawn, rwy'n credu, unwaith eto, sef gweithio gyda phobl yn uniongyrchol er mwyn helpu i greu canlyniadau cadarnhaol.
Sefydlogrwydd lleoliadau—cwbl hanfodol. Fe wyddom ni, ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal, os cawn ni leoliad sefydlog, bydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol, boed yn ymwneud ag addysg, iechyd, â phontio i fod yn oedolion—mae sefydlogrwydd y lleoliad yn hollol allweddol. Roedd rhywfaint o'r ymchwil diweddar a wnaethom—fe wnaethom ni gyhoeddi ymchwil a gyflwynwyd gennym ym mis Mai eleni—roedd yn edrych ar ganlyniadau lleoli plant bedair i bum mlynedd ar ôl i'r gorchymyn gofal terfynol gael ei wneud. Yr hyn a oedd yn galonogol yn sgil hynny oedd bod tri chwarter y garfan gyfan o blant wedi profi lefel uchel o sefydlogrwydd lleoliadau, heb unrhyw symudiad o ran lleoliad neu ddim ond un symudiad lleoliad dros y cyfnod o bedair blynedd. Nawr mae hynny'n arwyddocaol ac mae'n dangos ein bod yn dechrau cysylltu rhywfaint ar y dotiau i sicrhau eu bod nhw'n mwynhau'r sefydlogrwydd hwnnw sy'n rhoi'r seiliau iddyn nhw wedyn i dyfu a chael y canlyniadau cywir fel unigolion ifanc.
Nawr, fe wnaethoch chi sôn, yn briodol am yr agwedd ehangach ar iechyd meddwl a llesiant ac, unwaith eto, mae hyn yn mynd yn rhan o'r agenda atal ac ymyrraeth gynnar. Os gallwn ni nodi ac arbed y costau yn gynharach, bydd yn well i'r unigolyn, ond hefyd yn well o ran osgoi costau achub ymhellach ymlaen. Wrth gwrs, roedd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth. Ym mis Medi, cyhoeddodd Ysgrifenyddion y Cabinet dros iechyd ac addysg y bydden nhw'n galw ynghyd grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd—rwy'n osgoi edrych i fy ochr dde ar hyn o bryd, fy ochr dde agosaf—i ystyried ond hefyd i gyflymu'r gwaith i gyflawni dull o weithredu ysgol gyfan yn rhan o ddull o weithredu system gyfan tuag at lesiant meddyliol y plant. Roedd y cyfarfod cyntaf ar 17 Hydref. Rydym ni wedi ymrwymo nawr i symud yr agenda hon ymlaen yn gyflym a byddwn ni'n darparu'r newyddion diweddaraf ynghylch gweithgareddau a chynnydd yn unol â'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yng ngwanwyn 2019. A bydd hyn, fel y gŵyr David, yn cysylltu â'r rhaglen waith Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant a gyda'r grŵp cynghori'r Gweinidog i sicrhau bod gwasanaethau ysgol yn gallu diwallu anghenion iechyd meddwl penodol plant â phrofiad o ofal neu blant sy'n derbyn gofal. Rwy'n credu—. Rwy'n edrych tuag at y Dirprwy—. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd, mae'n well imi dawelu nawr. [Chwerthin.]
Byddai hynny yn ddefnyddiol, oherwydd mae gennym ni—. Ac, yn olaf, Michelle Brown. Ac mae'r amser ar ben, ond—. Michelle.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn hefyd ddiolch i'r grŵp cynghori am eu gwaith hyd yma. Hoffwn hefyd longyfarch y rhai sy'n ymwneud â chyflawni gwelliannau yn y gwasanaethau pontio a'r camau cadarnhaol eraill y cawsom y newyddion diweddaraf yn eu cylch heddiw, Gweinidog.
Mewn byd delfrydol, ni fyddai unrhyw blentyn yn gorfod mynd i mewn i'r system ofal—onid yw hynny'n hollol amlwg? Ond rhan o'r rheswm pam yr ydym ni'n awyddus i atal plant rhag gorfod mynd i mewn i ofal yw oherwydd nad yw Llywodraethau olynol wedi darparu gofal yn iawn. Mae eich datganiad yn ymwneud â lleihau nifer y plant sy'n mynd i ofal, gan awgrymu bod plant a phobl ifanc yn cael eu rhoi mewn gofal pan efallai fod dewisiadau eraill ar gael. Rydych chi wedi rhoi enghraifft o sut y mae dewisiadau eraill yn cael eu hystyried, ond mae'r posibilrwydd o blant yn mynd i mewn i ofal pan fo dewis arall ar gael yn peri pryder mawr ac fe hoffwn ichi egluro beth yw hyd a lled y broblem a'i maint hi. Pa mor fawr yw'r pryder hwn? Sut byddwch chi'n sicrhau na fydd ceisio lleihau nifer y plant mewn gofal yn lleihau'r flaenoriaeth i wella'r system ofal ei hun gan annog y Llywodraeth i beidio â gwella'r system ofal ar gyfer y rhai hynny y mae ei hangen arnyn nhw yn ddiau, y rhai nad oes dewis ar eu cyfer heblaw eu rhoi mewn gofal?
Os oes llai o blant a phobl ifanc mewn gofal, a fydd hynny'n arwain at fwy o arian yn cael ei wario ar bob plentyn sy'n parhau mewn gofal, neu a fydd yn arwain at ostyngiad yn yr arian ar gyfer darparu gofal? Pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am gyfeirio'r arbedion a grëwyd drwy osod llai o blant mewn gofal, tuag at y rhai hynny sydd yn gorfod bod mewn gofal? A fyddwch chi'n edrych ar y trothwy ar gyfer lleoli plant mewn gofal a ddefnyddir gan yr asiantaethau statudol? Os felly, a ydych chi'n credu bod y trothwy presennol yn rhy isel, a ydych chi'n credu ei fod yn gywir—ble mae'r trothwy hwnnw ar hyn o bryd yn eich barn chi? Ai hwnnw yw'r trothwy cywir? Fe hoffwn gael sicrwydd, yn gyntaf, na fyddwch yn cymryd yr arian allan o'r system ofal er mwyn ariannu mwy o bwysais ar ffyrdd i leihau'r angen i blant fod yn y system ofal ac a wnewch chi gadarnhau y bydd gwariant ar y system ofal yn cynyddu yn unol ag angen a chwyddiant?
Yn ddiweddar, gofynnais gwestiwn ichi hefyd am y system fabwysiadu. Ni wnaethoch ei ateb. Felly, yn rhan o'r ymdrechion i atal plant rhag gorfod aros yn y system ofal yn hwy na'r angen, fe'i gofynnaf eto: a ydych chi'n credu, fel yr wyf i, nad oes unrhyw reswm pam na ddylai plant gael eu mabwysiadu gan rieni o ethnigrwydd gwahanol iddyn nhw? A beth ydych chi wedi'i wneud i asesu, ac os felly sicrhau nad yw asiantaethau mabwysiadu a gweithwyr cymdeithasol yn gweithredu, yn ffurfiol nac yn anffurfiol i annog pobl i beidio â mabwysiadu pan fo hiliau'n gymysg? Ceir llawer o deuluoedd ethnig cymysg yn y DU, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu wrth inni groesawu cymdeithas amrywiol. Yn briodol hefyd, nid ydym ni'n trin cyplau hoyw yn wahanol i gyplau eraill yn y broses o fabwysiadu. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod amrywiaeth hiliol mewn teuluoedd yn beth da, fel y mae yn ein cymdeithas ehangach, ac na ddylai gwahaniaethau ethnig fod yn ffactor wrth leoli plant i'w mabwysiadu? Os ydych o ddifrif ynghylch cadw cymaint o blant â phosibl allan o'r system ofal neu gadw eu hamser ynddi mor fyr â phosibl, rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno, ond fe hoffwn eich clywed yn dweud hynny.
Yn olaf, yn yr Wythnos Diogelu Cenedlaethol hon, rydym ni wedi cael llawer iawn o straeon yn y wasg ac mewn mannau eraill dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ynghylch gangiau'n meithrin perthynas amhriodol ac oedolion yn paratoi plant i bwrpas camfanteisio rhywiol, felly hoffwn i'r Gweinidog achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf inni ynghylch y mesurau yr ydych chi'n eu cymryd a'r mesurau y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn eu cymryd i ddiogelu plant ac i atal y rhai sy'n meithrin perthynas amhriodol rhag—i atal yr unigolion a'r gangiau sy'n paratoi plant i bwrpas rhyw—rhag cael mynd at blant sy'n derbyn gofal, oherwydd un o'r grwpiau o blant mwyaf agored i niwed oddi wrth y gangiau hyn yw, yn amlwg, plant sy'n derbyn gofal. Mae gan y wladwriaeth ddyletswydd enfawr i wneud yn siŵr nad yw'r rhai sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol yn cael mynd at y plant hynny, felly fe fyddwn i'n hoffi'n fawr iawn, iawn cael gwybod beth yr ydych chi mewn gwirionedd yn ei wneud i atal hynny. Diolch.
Gweinidog, yn fyr.
Byddaf. Diolch. Rwyf i wedi sôn eisoes, yn fy atebion blaenorol, am lawer o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gynyddu cymorth i deuluoedd a chymorth therapiwtig er mwyn, lle y gallwn ni, gadw plant o fewn yr uned deuluol yn ddiogel ac yn briodol. Soniais am hyn yn fy sylwadau agoriadol, ond hefyd rhai o'r ffrydiau gwaith y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn eu hybu hefyd.
Roeddech chi'n rhoi sylw arbennig i un neu ddau o'ch pwyntiau yn y fan yna ynghylch petai ni'n gwneud arbedion mewn un maes er enghraifft—ac nid ydym wedi cyflawni hyn eto, mae'n rhaid imi ddweud—wrth leihau nifer y plant sy'n cael eu gosod mewn gofal, a fyddai hynny'n cael ei drosglwyddo i faes arall. Edrychwch, nid ydym ni'n torri nac yn asio'r gyllideb hon. Rydym ni newydd gyhoeddi £15 miliwn ychwanegol heddiw. Ein bwriad yw cynnal y cyllid sy'n mynd i mewn i hyn, ac, fel y dywedais wrth ymateb i bwynt Helen Mary yn gynharach, i ddod o hyd hefyd i fodelau cynaliadwy i alluogi hynny i barhau, a rhan o hynny yw drwy weithio mewn partneriaeth ranbarthol, ond hefyd gweithio mewn partneriaeth leol. Mae'n rhaid imi ddweud hefyd. Mae'n rhaid iddo dreiddio i lawr i'r lefel leol. Ond rwy'n credu bod ein hymrwymiad heddiw a dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn glir, er i rai pobl, gallai hyn fod yn rhywbeth ychydig yn anghonfensiynol—nid yw'n rhywbeth sy'n creu penawdau mawr yn y cyfryngau—i ni dyma'r peth pwysicaf os ydym ni'n credu o ddifrif bod gan bob un plentyn yr hawl i gael y canlyniadau hynny beth bynnag yw amgylchiadau eu geni neu'r hyn y mae bywyd yn ei daflu atyn nhw a'u sefyllfa deuluol.
Ar fater diogelu, soniais heddiw ein bod yn cefnogi—ac yn annog eraill i gefnogi, mae'n rhaid imi ddweud—yr ymgyrch Stop it Now! ynghylch cam-drin plant yn rhywiol, ond, wrth gwrs, yng Nghymru, rydym ni mwy na thebyg ychydig mwy ar flaen y gad hefyd o ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'n bwrdd diogelu cenedlaethol, ein byrddau diogelu rhanbarthol—. Nid ydym ni'n hunanfodlon oherwydd rwy'n credu bod y byrddau diogelu eu hunain yn gwybod bod gennym ni waith i'w wneud o hyd. Fe welwn ni hyn pan fo rhywbeth yn cyrraedd y penawdau. Rydym ni'n edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd, rydym ni'n edrych ar yr hyn aeth o'i le, fe ddysgwn ni o hyn, ac wedyn rydym yn gwneud yn siŵr bod y gwersi hynny yn cael eu dysgu, nid yn unig yn y rhanbarth, ond ledled Cymru hefyd. Felly rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd i chi.
Ac, yn olaf—rwy'n ymddiheuro—y rheswm pam na wnes i ymateb i chi y tro diwethaf yw oherwydd nad oeddwn i'n gallu—. Arnaf i oedd y bai; Roeddwn i braidd yn ddryslyd ynglŷn â'r hyn yr oeddech chi'n ei ofyn imi, ond fe es i'n ôl ac edrych ar y trawsgrifiad. Felly, gadewch imi ei gwneud un glir yn y fan yma: ar y diwrnod y gwnaethom ni'r datganiad diwethaf, fe es i ymweld â chwpl ifanc nid nepell oddi yma yng Nghaerdydd, mewn gwirionedd roedden nhw'n rhan o'r rhaglen Mabwysiadu Gyda'n Gilydd. Rwy'n credu ichi grybwyll o'r blaen y mater hwn ynghylch lleiafrifoedd ethnig nad oedd sôn amdanyn nhw'n benodol o fewn hynny. Mewn gwirionedd, y mae sôn amdanyn nhw, ac rwy'n credu bellach ein bod ni wedi ysgrifennu atoch i egluro y ceir, o fewn y llenyddiaeth, gyfeiriad penodol er enghraifft at blant o gefndir pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Felly, rwyf yn hapus iawn i ddweud ar goedd na ddylai unrhyw beth eithrio pobl rhag mabwysiadu—rhag dod yn deulu cariadus, gofalgar—ar sail hil nac ethnigrwydd na rhyw na rywioldeb nac unrhyw beth. Yr hyn sy'n bwysig yw teulu gofalgar, cariadus a fydd yn rhoi'r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i'r plentyn hwnnw ynghyd â sefydlogrwydd i fyw ac i ffynnu. Dyna hanfod hyn i gyd.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.