Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Nid oedd yna asesiad effaith ar hawliau plant wedi ei baratoi ar gyfer cynigion y gyllideb, nid hyd yn oed ar gyfer tri maes pwysig sydd wedi bod yn destun toriadau cyllidebol, sef y grant gwisg ysgol, y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig a'r rhaglen gyswllt ar ysgolion Cymru gyfan.
Mae adroddiad y comisiynydd, a fydd yn cael ei drafod ddydd Iau, yn codi cwestiynau mawr, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed y Llywodraeth yn ymrwymo i gymryd camau penodol i wella ei pherfformiad yn sylweddol.
Rydw i'n troi yn benodol, felly, at adroddiad blynyddol y comisiynydd ar gyfer 2017-18, ac yn cyfeirio'n benodol at y dull goleuadau traffig o fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu ar ei hargymhellion sydd yn system ardderchog ar gyfer craffu—ac, ie, craffu ar waith oedd yn deillio o adroddiad blynyddol 2016-17 mae'r comisiynydd, ond mae hi'n rhoi diweddariadau byw ar y wefan, ac rydym ni''n dyfynnu yn ein gwelliant ni o adroddiad Medi 2018, sydd yn dangos diffyg cynnydd, yn anffodus. Dim ond pedwar o'r argymhellion a wnaed sydd wedi eu categoreiddio'n wyrdd, efo pump wedi eu categoreiddio'n goch. Mae hyn yn codi cwestiynau mawr ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant.
Mae'r argymhellion coch yn cynnwys gofal plant, efo'r comisiynydd yn dweud:
'Trwy'r cynllun gofal plant peilot ac unrhyw gynllun dilynol, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw plant rhieni nad ydynt yn gweithio yn colli allan ar y cynnydd o ran gofal plant sy'n cael ei gynnig i blant rhieni sy'n gweithio.'
Mae'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'r cynnig cyfredol yn golygu bod y plant a fyddai'n elwa fwyaf o ofal plant yn colli cyfle i ddatblygu sgiliau bywyd allweddol yn ifanc. Gyda'r plant mwyaf difreintiedig yn cychwyn yr ysgol 10 mis y tu ôl i blant o deuluoedd sydd efo mwy o arian, mae Plaid Cymru yn rhannu pryderon y comisiynydd.
Mater arall sy'n cael golau coch gan y comisiynydd yw diffygion y Llywodraeth o safbwynt addysg ddewisol yn y cartref. Eto, rwy'n dyfynu'r comisiynydd. Mae
'angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r canllawiau cyfredol er mwyn rhoi iddynt rym statudol, yn ogystal â chynnwys cofrestr orfodol ar gyfer pob plentyn a addysgir yn y cartref, a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r plant hynny yn disgyn “o dan y radar”, hyd yn oed o ran y gwasanaethau cyffredinol.'
Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg, ac mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn derbyn addysg. Mae angen galluogi awdurdodau lleol i wneud y gwaith hwn.
Yn ôl y comisiynydd plant,
'Ers i'r argymhelliad hwn gael ei wneud, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn y Senedd ym mis Ionawr 2018, yn amlinellu'r bwriad i ymgynghori ynghylch newidiadau i is-ddeddfwriaeth i gryfhau pwerau presennol yr awdurdodau lleol.
'Hyd yma, ni chyflwynwyd unrhyw ymgynghoriad, a'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer hyn yw gwanwyn 2019.'
Geiriau'r comisiynydd.
Tra bod Llywodraeth Cymru yn llusgo'i thraed, mae peryg bod nifer o blant yn methu allan ar eu hawl i addysg ac mae peryg bod yna blant yn disgyn o dan y radar o ran derbyn gwasanaethau sylfaenol.
Yn fyr, mater arall nad ydy Llywodraeth Cymru wedi gweithredu arno fo yw Iaith Arwyddo Prydain. Yn ôl Cymdeithas Plant Byddar Cymru, flwyddyn ddiwethaf, roedd disgyblion byddar 26 y cant yn llai tebygol o dderbyn graddau A* i C yn y pynciau craidd na'u cyd-ddisgyblion sydd yn clywed. Mae'r bwlch yma'n bodoli oherwydd y rhwystrau y mae dysgwyr byddar yn eu hwynebu. Mae hwn hefyd yn cael y golau coch gan y comisiynydd.
Nid oes yna amser i fynd ar ôl y ddau faes arall, ond mae angen i Weinidogion roi sylw buan i'r materion yma—i'r rhai sydd wedi cael eu nodi'n goch gan y comisiynydd, ond hefyd y rhai sydd yn ambr. Mae angen i'r Llywodraeth ddod ag amserlen gerbron i'n hargyhoeddi y bydd pethau'n wahanol, y bydd pethau'n well pan ddown ni nôl i fan hyn flwyddyn nesaf.