Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Hoffwn ddechrau trwy dalu teyrnged i Sally Holland a'i staff am yr holl faterion gwahanol maen nhw wedi gweithredu arnyn nhw yn ystod y flwyddyn hon, ac am y ffordd y mae hi wedi gweithio mor agos gyda ni, Aelodau'r Cynulliad a gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, trwy fod yn bresennol yn aml a chael dylanwad mawr, yn fy marn i, ar y ffordd yr ydym ni wedi gwneud penderfyniadau. Ac wrth gwrs, yn bwysicaf oll, yn gweithio gyda phlant yn uniongyrchol gan roi llais i blant yng Nghymru.