Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Hoffwn ddiolch iddi am ei hymrwymiad—ei hymrwymiad ers llawer dydd—i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Nodaf, yn ei hadroddiad blynyddol mai dyma yw ei phrif argymhelliad i'r Llywodraeth, a dywed y dylai'r ddeddfwriaeth hon ddigwydd cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwybod ei bod hi mewn gwirionedd wedi ymgyrchu dros hyn ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, dyma argymhelliad pob comisiynydd plant ers sefydlu'r swydd: Peter Clarke, Keith Towler a nawr Sally Holland.
Felly, rwy'n credu bod eu dyfalbarhad a'u hymrwymiad i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, o'r diwedd yn dod i ddiweddglo, ac rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi dod i'r casgliad ac wedi cadarnhau y byddwn yn cael deddfwriaeth y flwyddyn nesaf. Mae mwy a mwy o ymchwil mewn gwirionedd yn atgyfnerthu'r pwysigrwydd i Lywodraeth Cymru gymryd y camau hyn, oherwydd canfu adroddiad a gyhoeddwyd yn y BMJ Open ym mis Hydref, a oedd yn edrych ar 88 o wledydd, yn y gwledydd hynny sydd wedi gwahardd smacio neu daro plant, roedd trais ac ymladd rhwng pobl ifanc yn llawer llai tebygol. Roedd ymladd yn llai cyffredin ymhlith bechgyn a merched 13 oed mewn gwledydd lle ceir gwaharddiad llwyr ar gosbi corfforol o'i gymharu â'r rhai heb waharddiad, gyda 31 y cant yn llai o ymladd ymhlith bechgyn a 58 y cant yn llai ymhlith merched.
Cafwyd llawer o ymchwil yn ddiweddar gan Academi Pediatreg America, sy'n darparu canllawiau ar gyfer meddygon a darparwyr gofal iechyd plant. Mae wedi cyhoeddi datganiad polisi newydd sy'n argymell bod oedolion sy'n gofalu am blant yn defnyddio ffurfiau disgyblu iach, megis atgyfnerthu ymddygiad priodol yn gadarnhaol, pennu terfynau a gosod disgwyliadau, a pheidio â rhoi chwip-din, peidio â tharo, slapio, bygwth, sarhau, bychanu na chodi cywilydd. Felly, yn sicr mae'r ymchwil yn atgyfnerthu'r penderfyniad a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon. Ac mae Sally Holland, yn ei hadroddiad blynyddol, yn dyfynnu barnau plant a phobl ifanc ynghylch y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu ei fod yn dangos mewn gwirionedd beth yw barn plant. Mae'n dweud,
'Dylai plant gael eu gwarchod yn hytrach na chael eu smacio.'
'Gall smacio bob amser fynd yn rhy bell, ble ydych chi'n tynnu'r llinell?'
'Mae rhai pobl yn credu bod angen smacio plant i'w dysgu sut i ymddwyn. Rwy'n anghytuno, mae'n gwbl ddiangen.'
'Dylech chi siarad ac egluro er mwyn sicrhau na fyddan nhw'n gwneud yr un peth eto.'
'Yn hytrach na smacio gallwch wahardd y teledu neu'r iPad; mae unrhyw beth yn well na smacio.'
Felly, mae Sally Holland wedi bod yn casglu tystiolaeth uniongyrchol gan y plant am eu barn ar smacio plant. Felly, mae'n hollol iawn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau hyn, a hefyd, yn fuan bydd yn ymuno â nifer o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud hyn eisoes.
Yn olaf, hoffwn gyfeirio at fater a godwyd gan y comisiynydd plant yr wythnos diwethaf pan dynnodd hi fy sylw at anghydraddoldebau mewn chwaraeon yn yr ysgol. Rwy'n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi gweld y stwff ar y teledu am y rhwystredigaeth y mae menywod ifanc yn ei deimlo ynghylch peidio â chael cyfle cyfartal i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ni all fod yn iawn pan fo mwy a mwy o ferched, er enghraifft, yn awyddus i chwarae pêl-droed, fe ddywed merch 13 oed iddi gael ei beirniadu a'i galw'n ddyn neu'n lesbiad am gymryd rhan mewn chwaraeon bechgyn. Dywedodd ei hathrawon wrthi na chaiff hi chwarae pêl-droed yn yr ysgol oherwydd mai hoci a phêl-rwyd yw'r chwaraeon ar gyfer merched.
Dywed Sally Holland yn gwbl briodol, ei bod hi'n dorcalonnus clywed am stereoteipio ar sail rhyw mewn ysgolion yn y dyddiau hyn, a disgrifiodd gwahanu chwaraeon yn yr ysgol ar sail rhyw fel 'syndod' yn 2018. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn a godwyd gan Sally Holland, oherwydd ein bod eisiau i'n pobl ifanc—bechgyn a merched—aros mor egnïol â phosibl a chwaraeon ysgol yn amlwg yw un o'r ffyrdd allweddol o wneud hynny. Felly, fe hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hynny pan fydd yn ymateb, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid inni ddarganfod nifer yr ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, sy'n dal i gynnig chwaraeon ar wahân yn unig ar gyfer bechgyn a merched, a pha un a oes unrhyw ganllawiau i ysgolion ynghylch hyn.