Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych eisoes yn ymwybodol o fy ngwrthwynebiad llwyr i gynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i israddio ysbyty Llwynhelyg yn ysbyty cymuned a chanoli gwasanaethau ar safle arall. Rwy'n dal yn bryderus iawn nad oes unrhyw ymrwymiad wedi'i wneud i adeiladu unrhyw ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru. O ystyried yr angen dybryd i'r bwrdd iechyd gynllunio ei wasanaethau ar gyfer y dyfodol a recriwtio gweithwyr proffesiynol meddygol hanfodol, a allwch chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid o leiaf gadarnhau y bydd cyllid ar gael ar gyfer unrhyw safle ysbyty newydd fel y gall pobl sy'n byw yng ngorllewin Cymru fod yn sicr fod cynlluniau'r bwrdd iechyd yn fforddiadwy yn y lle cyntaf? Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'r mater penodol hwn?