Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod wedi trafod y mater cyfan gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd fydd cyflwyno'r achosion busnes sy'n ofynnol er mwyn cyflawni'r strategaeth y mae'n ei ffafrio. Wrth gwrs, o ystyried natur ddadleuol rhai o'r cynigion, mae'n bosibl y gall fod galw ar Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau terfynol ar y cynlluniau. Mae'n rhaid imi fod yn ofalus o ran yr hyn a ddywedaf, fel y gwn o fy nyddiau fel Gweinidog iechyd yn y cyd-destun hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw: os yw'n bosibl dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen mewn perthynas â gwasanaethau iechyd yn y rhan honno o Gymru, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn gadarnhaol ar ein gallu i gynorthwyo'r bwrdd iechyd i ddatblygu'r achosion busnes ar gyfer rhoi'r cynllun hwnnw a gytunwyd ar waith.