Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mewn trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn pwyllgor yr wythnos diwethaf, wrth archwilio cynigion y gyllideb, nodwyd nad yw'r data sydd gennym ar hyn o bryd ar nifer yr achosion o bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn gadarn o reidrwydd, a llwyddodd Ysgrifennydd y Cabinet i amlinellu cynlluniau sydd ar waith i wella'r broses honno o gasglu data. Os yw'r amcangyfrifon cyfredol o nifer yr achosion yn llawer is na'r angen gwirioneddol, fel y nododd, a fyddech chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn ystyried unrhyw gais y gallai ei wneud am adnoddau ychwanegol ar gyfer y gyllideb iechyd er mwyn ei gwneud hi'n bosibl diwallu'r lefel uchel honno o angen iechyd meddwl?