Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i chi a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ar y mater pwysig hwn? Amlygwyd maint y broblem yn ddiweddar gan adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y buom yn ei drafod yr wythnos diwethaf, ac mae'n gwestiwn pwysig i holl Aelodau'r Cynulliad ei ystyried, a hyd yn oed yn fwy na hynny, i bob un ohonom gydnabod bod yr iaith y dewiswn ei defnyddio yn y Senedd yn llunio'r negeseuon rydym yn eu cyfleu i bobl Cymru. Felly, a fyddech yn cytuno fod yr hyn a ddywedwn a'r hyn a wnawn yn y lle hwn yn chwarae rhan bwysig wrth hybu awyrgylch a all gynorthwyo i ostwng y lefelau presennol o droseddau casineb yng Nghymru?