1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o'r cytundeb ymadael rhwng y DU a'r UE? OAQ52973
Wel, ceir datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, wrth gwrs, ond rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud er bod angen llawer o agweddau ar y cytundeb ymadael, bod angen i'r datganiad gwleidyddol ar ein perthynas yn y dyfodol nodi bwriad y ddwy ochr i gytuno ar berthynas hirdymor sy'n adlewyrchu'n eglur y safbwynt yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' cyn y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gytundeb.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Tybed a allai gynnig ei farn a'i ddadansoddiad ynghylch ôl-stop Gogledd Iwerddon yn arbennig a'i oblygiadau i Gymru. Fel sy'n wir erioed gyda Llywodraeth y DU, nid yw'n ymddangos bod y rhethreg a'r realiti yn cyfateb hyd yn oed pan fo gennym ni fanylion cytundeb ymadael 600 tudalen. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y bydd ôl-stop Gogledd Iwerddon yn rhoi dwy ffin agored i Ogledd Iwerddon: un gyda'r Weriniaeth ac un gyda Phrydain. Ond os oes gwahaniaeth rheoleiddiol neu nad yw'n rheoleiddiol rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain, does bosib nad yw hynny'n golygu y bydd ffin galed ym Môr Iwerddon. Ai dyna ddealltwriaeth y Prif Weinidog o'r cytundeb ymadael a'r ôl-stop yn arbennig? A yw'n cytuno, felly, y byddai hynny'n newyddion drwg i borthladdoedd Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol? Neu a yw'n ymwybodol o unrhyw gynnig arall y gallai fod gan Lywodraeth y DU, fel penderfynu'n unochrog i beidio ag archwilio unrhyw nwyddau sy'n dod o Ogledd Iwerddon, pa un a oes ôl-stop ai peidio?
Wel, dyna wraidd y mater. Wrth gwrs, ceir rhai archwiliadau nawr, yn enwedig o ran anifeiliaid ac archwiliadau bwyd, ond maen nhw wedi bod yno oherwydd bod ynys Iwerddon yn un ardal cyn belled ag y mae bioddiogelwch yn y cwestiwn. Y pryder fu gen i erioed, ac ni roddir sylw iddo yn y cytundeb ymadael, yw y byddai rhwystrau yn cael eu codi, byddai, trwy ganol môr Iwerddon, ond mae hynny'n effeithio ar Gymru hefyd, oherwydd, yn amlwg, yr hyn nad wyf i eisiau ei weld, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon yn y Siambr hon, yw unrhyw rwystrau newydd yn cael eu codi rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, yn enwedig rhwystrau a fyddai'n arwain at fasnach yn symud yn rhwyddach trwy borthladdoedd yr Alban i Ogledd Iwerddon. Nid yw'r cytundeb ymadael yn eglur ynghylch sut y byddai hynny'n gweithio. Mae'r pwyslais wedi bod ar y ffin ar y tir rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond nid oes unrhyw bwyslais ar y ffin forol rhwng Cymru—a Lloegr o ran hynny—a Gweriniaeth Iwerddon, sy'n absennol o'r cytundeb.
Prif Weinidog, tra bod eich Llywodraeth wedi bod yn chwarae gwleidyddiaeth ers mis Mehefin 2016, a dweud y gwir—[Torri ar draws.]—trwy ddangos eich hun ac ymosod ar Brif Weinidog y DU, y gwir amdani yw bod Theresa May wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddod i gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, sy'n cyflawni dros Gymru ac yn parchu canlyniad y refferendwm—ac rwy'n atgoffa pawb—pan bleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr UE. Nawr, rwy'n derbyn bod y cytundeb a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf yn gyfaddawd. Rwy'n derbyn na fydd yn bodloni pawb yn y Siambr hon, ond yr hyn y bydd yn ei wneud—. [Torri ar draws.] Yr hyn y bydd yn ei wneud fydd amddiffyn swyddi, diogelu buddiannau busnesau Cymru, diogelu'r amgylchedd a diogelu hawliau pobl Cymru. Nawr, er gwaethaf y gefnogaeth a ddangoswyd i'r cytundeb hwn gan y CBI, gan sefydliad y Cyfarwyddwyr a chan y gwahanol undebau ffermio, gan gynnwys ein hundebau ffermio ein hunain yma yng Nghymru, mae Jeremy Corbyn, wrth gwrs, wedi diystyru cefnogi'r cytundeb, a diystyriwyd hynny ganddo heb ddarllen manylion y cytundeb. A ydych chi wedi darllen y cytundeb, ac a wnewch chi ein sicrhau y byddwch yn gwneud y peth iawn a chefnogi'r cytundeb sydd o'n blaenau, sydd yn ymarferol ac yn cynrychioli'r unig ffordd i ni ymadael â'r UE yn drefnus?
Wel, nid oes unrhyw bwynt gofyn i mi; mae angen iddo ofyn i'w gydweithwyr ei hun yn Llundain. Nid yw'n gwestiwn bod hon yn ddadl Llafur yn erbyn y Ceidwadwyr. Mae llawer iawn o'i gydweithwyr yn Llundain sy'n gwrthwynebu'r cytundeb hwn yn llwyr. Dyna yw'r gwir amdani. Mae angen iddo argyhoeddi Jacob Rees-Mogg yn gyntaf, gyda pharch, gan ei fod ef yn aelod o'i blaid. David Jones—ar ei garreg drws ei hun, gall geisio darbwyllo David Jones. Y broblem yw hon, ynte: mae'r cytundeb ymadael yn roi sylw i rai o'r materion, ond nid mewn ffordd sy'n ddigon diogel nac yn ddigon parhaol. Ceir materion eraill y mae angen eu datrys hefyd, yn enwedig o ran yr ôl-stop. Y broblem wirioneddol yw na allaf weld unrhyw ffordd bod hwn yn mynd i lwyddo i fynd drwy Tŷ'r Cyffredin. Dyna'r broblem, ac mae angen i'r Blaid Geidwadol ystyried pa un a yw'r pleidleisiau ganddi ai peidio i gael cymeradwyaeth i'r cytundeb. Felly, nid y cytundeb yw'r broblem fel y cyfryw, er bod gen i ddadleuon ynghylch y cytundeb, yn enwedig o ran pa mor hir y bydd yn para, ond nad ydym yn gwybod pa un a fydd y cytundeb hwn yn llwyddo i fynd drwy Tŷ'r Cyffredin, a dyna ble mae'r broblem o fewn y Blaid Geidwadol a'r rhaniadau enfawr sydd ynddi.
Prif Weinidog, yn ogystal â'r cytundeb ymadael, fel yr ydych chi wedi tynnu sylw ato'n rheolaidd, cafwyd y datganiad gwleidyddol ar y berthynas yn y dyfodol a gyhoeddwyd ar yr un pryd. Er na allwn ni newid y cytundeb ymadael, gan ein bod ni'n annhebygol o gael unrhyw newidiadau a gwelliannau drwy'r UE yn y sefyllfa honno, gellir newid hyn o hyd mewn gwirionedd, ac nid yw'r Cyngor yn cyfarfod tan ddydd Sul. A ydych chi'n cael trafodaethau gyda Phrif Weinidog y DU i sicrhau bod llais Cymru yn mynd i gael ei glywed mewn unrhyw newidiadau i'r datganiad hwn? Oherwydd fel yr ydych chi wedi tynnu sylw ato droeon gerbron ein pwyllgor, ni wrandawyd ar lais Cymru yn aml iawn yn Llundain. Mae'n amser erbyn hyn y dylid gwrando arno yn y datganiad hwn yn y dyfodol ar fuddiannau yn y dyfodol.
Gallaf hysbysu'r Siambr y byddaf yn cyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory i drafod hynny a materion eraill.