1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu swyddi yn ffatri Schaeffler yn Llanelli? OAQ52977
Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae wedi ei wneud ar ran y gweithwyr hynny? Rydym ni wedi cynnal trafodaethau gyda Schaeffler, a derbyniwyd cynnig o ddull dwy haen i gynorthwyo'r cwmni. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddechrau mis Rhagfyr i ddatblygu tasglu gydag aelodau o dîm rheoli Schaeffler, ac mae'r cyfnod ymgynghori yn dal i fod yn weithredol, wrth gwrs, tan ddechrau mis Ionawr. Bwriad y cymorth, wrth gwrs, yw helpu'r rhai sy'n gweithio yno ar hyn o bryd ac i weld pa ddefnyddiau manteisiol ar gyfer cyflogaeth a allai fod i'r safle yn y dyfodol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r newyddion hynny'n frwd. Cefais gyfarfod gydag Ysgrifennydd yr economi yr wythnos diwethaf i annog y Llywodraeth i ymgysylltu â'r gwaith, felly rwyf i wrth fy modd bod hynny wedi digwydd nawr. Pan gefais gyfarfod â rheolwr gyfarwyddwr Schaeffler yn y DU, fe'i gwnaed yn eglur ganddynt nad oedd gan eu penderfyniad i gychwyn y broses o gau ddim i'w wneud â'r gweithlu, a oedd, pwysleisiwyd ganddynt, wedi bod yn ardderchog. Ond, mae'n hanfodol eu bod nhw'n ymgysylltu'n briodol â'r broses ymgynghori nawr. A wnaiff Llywodraeth Cymru ei gwneud hi'n eglur iddyn nhw os byddant yn penderfynu nad ydyn nhw eisiau parhau'r gwaith mwyach, na fyddwn yn derbyn penderfyniad ganddyn nhw i ddiflannu heb ddangos cyfrifoldeb? Mae'r dref hon wedi darparu bron i 50 mlynedd o gynyddu elw'r busnes hwn, ac mae rhwymedigaeth yn ddyledus ganddyn nhw i ni i weithio gyda ni yn adeiladol i weld a allwn ni gadw gweithgynhyrchu yn y gwaith hwnnw.
Ie, mae'r sgwrs wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn. Byddwn yn disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol—nid oes unrhyw reswm iddyn nhw newid eu meddyliau. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda ni, fel Llywodraeth, a bydd y pwyslais yn gryf iawn ar ddod o hyd i ddefnydd newydd i'r safle, gan ddarparu cyflogaeth i bawb sydd wedi gweithio yno ac eraill yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, i ddarparu cymorth i'r gweithwyr hynny a fydd nawr, o bosibl, yn edrych mewn mannau eraill. Ond, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed pan fo sefyllfaoedd fel hyn wedi codi, byddwn yno i gefnogi'r gweithwyr dan sylw.
A gaf i gysylltu fy hun a'r hyn y mae Lee Waters wedi ei ddweud am yr ymrwymiad y mae'r gweithlu wedi ei ddangos dros gyfnod o flynyddoedd lawer iawn i'r cwmni hwnnw, a faint maen nhw wedi ei gyfrannu at ei lwyddiant? Gobeithiaf y bydd y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael yn arwain at ganlyniad cadarnhaol, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod rhyw synnwyr braidd yma o godi pais ar ôl piso, ac efallai'n wir ei bod yn rhy hwyr i newid meddwl Schaeffler—rwy'n gobeithio y byddaf yn cael fy mhrofi'n anghywir yn hynny o beth, ac rwy'n falch o weld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud.
Ond, o ran busnesau gweithgynhyrchu eraill sydd efallai'n teimlo bod eu dyfodol yn cael ei beryglu'n fawr gan y posibilrwydd o Brexit, beth arall all eich Llywodraeth ei wneud i ymgysylltu â nhw'n rhagweithiol cyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt y mae Schaeffler wedi ei gyrraedd a'u bod mewn gwirionedd wedi gwneud y penderfyniad i adael? Fel yr awgrymwyd i chi eisoes y prynhawn yma, y ffordd fwyaf effeithiol, wrth gwrs, o ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn fyddai pleidlais y bobl a phenderfyniad i ni aros. Ond, yn y cyfamser, ac yn absenoldeb hynny, beth arall allwch chi ei wneud i ymgysylltu'n rhagweithiol â chwmnïau rhyngwladol yn arbennig yn y gobaith y gallwn ni eu hatal rhag cyrraedd y sefyllfa y mae Schaeffler wedi ei chyrraedd?
Ceir adegau pan fyddwn ni'n cael rhybudd o achosion posibl o gau ac rydym ni'n gallu helpu'r cwmnïau hynny, ac rydym wedi gwneud hynny yn y gorffennol—Tata, mae'n debyg, yw'r enghraifft fwyaf amlwg. Ond, ceir adegau pan na fyddwn ni'n cael unrhyw rybudd, ac roedd hon yn un adeg o'r fath. Pe byddem ni wedi gwybod bod problemau yno, mae'n amlwg y gallem ni fod wedi ceisio helpu'r cwmni, ond roedden nhw wedi gwneud y penderfyniad eisoes.
O ran y ffordd yr ydym ni'n gweithredu a'r hyn y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol, mae gennym ni gronfa bontio'r UE, wrth gwrs, o £50 miliwn, sydd yno i helpu busnesau i bontio, i'w helpu gyda hyfforddiant fel eu bod yn gystadleuol pan fydd Prydain yn gadael yr UE. Wrth gwrs, rydym ni'n parhau i weithio ar ffyrdd eraill, gan weithio gyda'r gymuned fusnes, fel y gallwn eu helpu nhw i oresgyn yr ansicrwydd anhygoel y maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd.