Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Rydym ni'n gweld twf cynlluniau prentisiaeth. Rwy'n credu bod y DU wedi colli diddordeb mewn prentisiaethau yn y 1990au, ac wedi canolbwyntio gormod ar gyrsiau academaidd. Rydym ni'n gweld nawr, wrth gwrs, nid yn unig cwmnïau mwy ond cwmnïau llai yn cynnig prentisiaethau. Roedd Twf Swyddi Cymru yn enghraifft o hynny i roi'r hyfforddiant i bobl yr oeddent ei angen i gael swydd ac, wrth gwrs, mae gennym ni ymrwymiad i greu 100,000 o brentisiaethau i bob oedran ledled Cymru. Trwy greu'r prentisiaethau yr ydym ni'n creu'r cyfleoedd i bobl, ac yn dangos iddyn nhw bod dewis arall gwerth chweil yn hytrach na'r llwybr academaidd ac, wrth gwrs, wrth sicrhau hynny, gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy yn y dyfodol.