Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Prif Weinidog, mae fy rhanbarth i wedi colli llawer gormod o swyddi gweithgynhyrchu yn ystod y degawdau diwethaf, ac er fy mod i'n croesawu camau eich Llywodraeth i sicrhau buddsoddiad gweithgynhyrchu newydd, fel cytundeb Aston Martin, nid yw hyn yn disodli'r golled o allbwn gweithgynhyrchu yng Ngorllewin De Cymru. Prif Weinidog, sut gwnaiff eich Llywodraeth sicrhau bod fy rhanbarth i yn elwa ar fuddsoddiad o'r fath, yn enwedig gan fod y rhanbarth wedi rhagori yn y gadwyn gyflenwi fodurol yn y gorffennol?