Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Nid wyf i'n credu y gallaf i ychwanegu llawer at yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Mae hi'n ei ddweud mor rymus ei hun. Pan soniodd am y ffaith bod menywod a merched ifanc yn arbennig yn cael eu portreadu fel dioddefwyr, dechreuais feddwl am rai o'r rhaglenni yr wyf i wedi eu gweld yn ddiweddar, ac mae hi'n iawn. Nid oeddwn i wedi sylwi ar hynny, felly rwy'n ddiolchgar iddi am godi'r mater hwnnw, ac mae hi'n hollol iawn bod hyrwyddo dioddefaint yn annog pobl i wneud mwy o bobl yn ddioddefwyr, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sicr yn fater cryf yn y fan yna ac mae'n rhywbeth y credaf y bydd angen ei archwilio yn y dyfodol.
Yn ail, mae'n rhannol iawn, rwy'n credu, i ddweud hynna am y farnwriaeth. Rwy'n credu, i'w hamddiffyn, bod barnwyr iau yn arbennig yn gwbl ymwybodol o'r byd o'u cwmpas ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'n briodol ei ddweud a'r hyn nad yw'n briodol ei ddweud. Rwy'n credu, yn sicr, pan oeddwn i'n ymarfer, bod rhai o'r barnwyr hŷn ar y pryd o gyfnod gwahanol efallai. Ond byddai'r barnwyr yr wyf i'n eu hadnabod yn ymwybodol dros ben o'r angen i fod yn sensitif ac yn briodol, ac yn sicr ni fyddent, rwy'n siŵr, yn dweud dim o'r fath wrth grynhoi.
Ond rwyf i'n meddwl tybed a ydym ni wedi mynd tuag at yn ôl. Mi wyf i'n meddwl hynny, oherwydd roedd yn ymddangos tan yn ddiweddar iawn bod y mater o gydraddoldeb rhwng y rhywiau a'r mater o barch yn rhywbeth a oedd yn daith ddiddiwedd tuag at ganlyniad mwy cadarnhaol. Nid wyf yn siŵr bod hynny'n wir. Nid wyf i'n credu bod Cymru yn lle diogel i fenywod wneud honiadau, mae'n rhaid i mi ddweud, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod fel pleidiau gwleidyddol, ac rydym ni i gyd yn cydnabod bod yn rhaid cymryd camau yn hynny o beth. Felly, mae llawer o waith i'w wneud. Ond caiff y gwaith hwnnw, wrth gwrs, ei yrru ymlaen yn gryf iawn gan y math o sylwadau y mae hi ac eraill yn y Siambr hon wedi eu gwneud, a bydd y sylwadau y mae hi wedi eu gwneud a rhai fy nghyfaill o Fro Morgannwg ac eraill yn y Siambr hon bob amser yn cael eu cefnogi'n gryf gennyf i.