Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gydnabod pwysigrwydd Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Diwrnod Byd-eang y Plant gan y Cenhedloedd Unedig ym 1954 a chaiff ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hybu undod rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymhlith plant ledled y byd ac er mwyn gwella lles plant. Ers ei sefydlu, mae 20 Tachwedd wedi dod yn ddyddiad pwysig o ran cynyddu hawliau plant ledled y byd. Ar 20 Tachwedd 1959, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y datganiad ar hawliau'r plentyn. Ar y dyddiad hwn hefyd ym 1989, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y confensiwn ar hawliau'r plentyn. Ers 1990, mae Diwrnod Byd-eang y Plant wedi bod yn gyfle i ddathlu pen-blwydd mabwysiadu'r confensiwn a'r datganiad ar hawliau'r plentyn. Yn bwysicach, mae'n ddiwrnod pan gaiff plant ledled y byd eu hanrhydeddu a ble treulir amser i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo eu hawliau.
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru stori wych i'w hadrodd ynglŷn â'i waith yn craffu ar hawliau plant. Yn 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig pan gafodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ei basio. Nod y Mesur oedd atgyfnerthu a datblygu dull Llywodraeth Cymru o lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc. Roedd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac fe'i gwnaeth hi'n ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cynllun hawliau plant, yn nodi'r trefniadau sydd ar waith i roi'r sylw dyledus hwnnw. Mae'n rhaid i'r dyletswyddau hyn fod yn gonglfaen i ddull Llywodraeth Cymru o lunio'i pholisïau ar gyfer plant. Mae'r pwyllgor hwn wedi monitro a chraffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o dan y ddyletswydd hon, a bydd yn parhau i wneud hynny er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel, yn iach, yn hapus ac y caiff eu hawliau cyfreithiol eu parchu.
Mae gwaith y pwyllgor wedi cael effaith sylweddol ac mae wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar newid a gwelliannau wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn sawl maes. Rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud wrth graffu ar feysydd polisi a deddfwriaeth allweddol yn hanner cyntaf y Cynulliad hwn. Ar ddechrau'r Cynulliad, fe wnaethom ni bennu egwyddorion ac uchelgeisiau clir ar gyfer ein gwaith. Un o'r egwyddorion hynny oedd y dylai ymgysylltu â phlant a phobl ifanc fod yn sylfaen i'r holl waith a wnawn, gan sicrhau bod eu safbwyntiau a'u profiadau yn cael eu cofnodi mewn ffordd ddefnyddiol, sensitif ac adeiladol. Rydym ni bellach hanner ffordd drwy'r pumed Cynulliad, felly mae hyn yn gyfle perffaith imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y pwyllgor ar faterion plant a sut yr ydym ni wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc dros y cyfnod hwn. Yn anffodus, ni fyddaf i'n gallu trafod pob un o'r meysydd hyn yn y datganiad. Yn hytrach, byddaf yn canolbwyntio ar y rhai yr ydym ni wedi cael yr effaith fwyaf arnyn nhw, ac wedi ymgysylltu mwyaf â phlant, yn fy marn i.
Yn ein hymchwiliad cipolwg i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, rhoddodd mwy na 1,500 o bobl ifanc eu barn i ni. Roedd yr adborth gan bobl ifanc yn hynod o glir: pan fydd darpariaeth gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae'r effaith yn sylweddol. Ffurfiodd hyn ran hanfodol o'n canfyddiadau a'n hargymhellion. Roeddem yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu'r pwyslais ar y gwasanaethau hyn yn dilyn ein hadroddiad ac ymddengys fod y cynnydd yn addawol, gyda bwrdd gwaith ieuenctid dros dro wedi ei benodi yn ddiweddar.
Er gwaethaf nifer o adroddiadau blaenllaw blaenorol yn ymwneud â gwasanaethau eiriolaeth, roedd y pwyllgor yn pryderu o hyd nad oedd y plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael cefnogaeth i fynegi eu barn ynglŷn â materion sy'n effeithio arnyn nhw. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod yr angen am eiriolaeth annibynnol yn argymhelliad allweddol yn adroddiad Waterhouse yn y flwyddyn 2000. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd sicrhau bod gan blant agored i niwed eiriolwr annibynnol. Felly, ym mis Hydref 2016, cynhaliwyd ymchwiliad byr, penodol i ddarpariaeth eiriolaeth statudol yng Nghymru. Rydym ni'n falch, ers ein hadroddiad, bod cynnydd wedi'i wneud a nodir yn eang bod prosesau craffu y pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod y model cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth wedi'i weithredu a'i ariannu'n llawn ledled Cymru.