10. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 7:05, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Yn rhan o'n gwaith craffu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai gyda phobl ifanc a chynhadledd ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn helpu i gasglu sylwadau ynglŷn â sut mae'r Bil wedi effeithio arnyn nhw. Ffurfiodd yr ymgysylltiad hwn ran hanfodol o'n gwaith craffu ac yn rhoi dealltwriaeth dreiddgar o anghenion y plant hynny a sut y gellid defnyddio'r Bil i wella'r gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn. Un ffordd hanfodol y gwellodd y Pwyllgor y Bil oedd cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a oedd yn ganlyniad i'n sylwadau ni a sylwadau'r comisiynydd plant.

Ystyrir bod Dechrau'n Deg yn un o raglenni blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom ni ddewis cynnal ymchwiliad yn canolbwyntio ar elfennau allgymorth Dechrau'n Deg, oherwydd dywedodd ymatebwyr i'n hymgynghoriad yn 2016 ar y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn eu bod yn bryderus ynghylch cyrhaeddiad y rhaglen. Er bod cefnogaeth gyffredinol i nodau Dechrau'n Deg, roedd pryder y gall targedu daearyddol y rhaglen greu mwy o anghydraddoldeb drwy eithrio nifer sylweddol o blant sy'n byw mewn tlodi. Arweiniodd ystyriaeth y pwyllgor o'r mater hwn at newid cadarnhaol, yn arbennig o ran ymestyn y cyllid allgymorth, er mwyn i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd i ddewis defnyddio eu cyllidebau i ddarparu gwasanaethau Dechrau'n Deg y tu allan i ardaloedd cod post dynodedig. Mae dros £600 miliwn wedi ei wario ar Dechrau'n Deg hyd yn hyn, a bydd ein pwyllgor yn parhau i dynnu sylw at ba un a all y buddsoddiad hwn ddarparu tystiolaeth ei fod yn cyflawni canlyniadau gwell yn y blynyddoedd cynnar.

Mae iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a'n pobl ifanc yn hollbwysig. Yn ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl', fe wnaethom ni alw ar Lywodraeth Cymru i drawsnewid y cymorth sydd ar gael. Fe wnaethom ni gasglu tystiolaeth helaeth a daethom i'r casgliad bod yr her frys bellach ym mhen blaen y llwybr gofal, a bod angen llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer lles emosiynol, cydnerthedd ac ymyrraeth gynnar. Bydd methu â chyflawni ym mhen hwn y llwybr yn arwain at fwy o alw am wasanaethau arbenigol na'r hyn sydd ar gael a bydd yn gadael cyfran sylweddol o blant—y canol coll, fel y'u gelwir—heb y cymorth sydd ei angen. Mae ein siom ynghylch ymateb gwreiddiol Llywodraeth Cymru wedi'i gofnodi'n dda, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifenyddion y Cabinet wedi myfyrio dros yr haf ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a gyfarfu'n ddiweddar am y tro cyntaf i ystyried ffordd ymlaen. Fel Pwyllgor, ni fyddwn yn llaesu dwylo ar hyn ac rydym ni wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig diwygiedig i'n hargymhellion erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddwn yn cadw llygaid barcud ar gamau gweithredu'r Llywodraeth yn y maes hwn.

Tynnwyd sylw'r pwyllgor at bryder ynghylch y mater o ddiffyg gwerslyfrau addas ac adnoddau addysgol eraill gan rai ar draws y sector ac yn bwysicaf gan ddisgyblion ysgol eu hunain. Mae darparu adnoddau priodol ar gyfer dysgwyr, yn arbennig ar gyfer TGAU a safon uwch, yn hanfodol. Felly gwnaeth y pwyllgor waith i weld yr hyn y gellid ei wneud i wella hyn. I helpu i ddeall y problemau, cawsom dystiolaeth yn uniongyrchol gan nifer o blant drwy gyfres o blogiau fideo. Trwy wrando'n uniongyrchol ar y plant helpodd hyn inni ddeall natur y materion yr oedden nhw'n eu hwynebu a maint y broblem.

Er nad yw'n rhan o waith y pwyllgor, byddai'n esgeulus imi beidio â sôn am Senedd Ieuenctid Cymru ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant. Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd ac i'r tîm prosiect senedd ieuenctid am roi gwybodaeth reolaidd imi am y cynnydd. Mae sefydlu senedd yn gyfnod wirioneddol gyffrous yn hanes y Cynulliad. Mae'n gydnabyddiaeth wirioneddol o werth plant a phobl ifanc yn ein democratiaeth a dylai greu cysylltiadau ystyrlon a pharhaus rhwng ysgolion, pobl ifanc a'r Cynulliad. Mae'r broses o ethol y senedd ieuenctid cyntaf yn mynd rhagddi, fel y gwyddoch chi, ac mae pleidleisiau yn cau ar ddiwedd yr wythnos hon. Fe hoffwn i gynnig cefnogaeth lawn ein Pwyllgor i'r senedd ieuenctid a'i haelodau ac rwy'n edrych ymlaen at y Pwyllgor yn gweithio gyda'r senedd lle bynnag y bo modd.

Ceir llawer o feysydd eraill o waith y pwyllgor y gallwn i siarad amdanynt sydd wedi effeithio ar blant. Rydym ni wedi gwneud llawer o waith ac rydym ni'n ymrwymedig i weithredu ar ein holl ymchwiliadau. Enghraifft gyfredol o hyn yw'r gwaith dilynol yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd ar ein hymchwiliad iechyd meddwl amenedigol. Wrth edrych ymlaen, mae gennym ni faich gwaith trwm, sy'n cynnwys ymchwiliadau i effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach a statws Bagloriaeth Cymru, yn ogystal â'r gwaith sy'n parhau ar Fil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae deddfwriaeth ar y gweill hefyd.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae'n ofid mawr bod yr adroddiad yn dweud bod plant sy'n derbyn gofal ledled Cymru yn cael cam oherwydd nad yw sefydliadau yn cydnabod eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol. Yn rhan o'n rhaglen waith, byddwn yn edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn ac ar ymateb y Llywodraeth. Fel yr amlinellwyd, bydd y pwyllgor yn parhau â'i waith mewn cysylltiad â 'Cadernid Meddwl' ac mae wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliadau i gyllid ysgolion a gordewdra ymhlith plant.

Yn olaf, byddwn yn gwneud gwaith i ystyried sut y mae Mesur hawliau'r plentyn wedi gweithio'n ymarferol, a sut y gellid gwella'r ddeddfwriaeth honno yn fwy i roi sylfaen gadarnach fyth i hawliau plant yng Nghymru. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod hawliau plant yn fwy na geiriau ar dudalen—rydym ni am fod yn glir eu bod yn cael eu hystyried, eu parchu a'u cynnal ar draws holl weithgarwch y Llywodraeth. I gloi fy natganiad heddiw, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith yn ystod y pumed Cynulliad hwn, ond, yn benodol, rydym yn ddiolchgar iawn i'r plant a'r bobl ifanc, mae eu cyfraniadau wedi chwarae rhan mor enfawr wrth helpu i lunio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Diolch.