Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n credu ei fod yn grynodeb defnyddiol a theg o'n sefyllfa ar hyn o bryd. Yr hyn yr oeddwn i'n ei chael hi'n anodd ei ddirnad ynddo oedd strategaeth o ran sut y dylem ni symud ymlaen, sut yr ydym ni'n osgoi'r trychineb gwleidyddol sy'n ymagor o'n blaenau.
Wrth gwrs, y ffaith amlwg allweddol yn y cytundeb ymadael drafft, rwy'n credu—pob un o'r 585 o dudalennau— yw nad yw'n crybwyll Cymru hyd yn oed fel troednodyn. Gwnaeth hyd yn oed fersiwn 1888 o Encyclopaedia Britannica yn well na hynny. Ac mae'n dweud rhywbeth eithaf canolog, onid yw, am agwedd Llywodraeth San Steffan at Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig? Mae Prif Weinidog Cymru ei hun wedi cwyno'n briodol am y ffaith nad oedd y cytundeb drafft hyd yn oed wedi ei rannu ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru. Yn wir, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud a fydd yr un peth yn wir am yr ail ddrafft—y fersiwn 20 tudalen o'r datganiad gwleidyddol y dywedir wrthym ni sydd wrthi'n cael ei lunio ar hyn o bryd.
Ond yng ngoleuni hynny, siawns nad oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymddiried yn Llywodraeth San Steffan wrth drosglwyddo ein pwerau iddyn nhw yn ddiniwed ar y gorau ac yn ddiofal ar y gwaethaf. A wnaiff y Prif Weinidog egluro—rwy'n deall y pwynt a wnaeth yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog o ran yr awydd i gadw at y cytundeb rhynglywodraethol—ond a wnaiff esbonio'r amseriad, nid yn unig yng ngoleuni'r achos sydd gerbron y Goruchaf Lys, ond hefyd y ffaith syml iawn y gall Llywodraeth y DU ddymchwel yn yr ychydig wythnosau nesaf? Felly, pam na ellir gohirio'r penderfyniad hwn i weld sut mae pethau'n datblygu, fel y dywedodd, ar yr adeg hon o'r argyfwng gwleidyddol mwyaf mae'n debyg yn ein hoes ni?
Mae Plaid Cymru wedi dweud yn glir na fyddwn ni'n cefnogi'r cytundeb ymadael fel y mae ar hyn o bryd. Mae'n rhwygo Cymru allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Mae mewn gwirionedd yn anwybyddu Cymru yn gyfan gwbl a'n buddiannau arbennig, ac nid yw'n dweud gair, fel y dywedodd y Prif Weinidog, o ran swm a sylwedd y berthynas economaidd yn y dyfodol.
Rwy'n falch o weld ein bod ni'n mynd i gael pleidlais ystyrlon ar y bleidlais ystyrlon, i ddefnyddio jargon Seneddol y dydd. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd gennym ni hefyd y cyfle i gyflwyno amrywiaeth o welliannau a fydd yn adlewyrchu'r ystod o safbwyntiau rhwng y pleidiau a hefyd o fewn pleidiau o ran atebion posibl i'r argyfwng gwleidyddol y cyfeiriodd ato? Ac yn benodol, a allwn ni gael ymrwymiad i ganiatáu i'r Aelodau hynny ar ei feinciau cefn sy'n hollol bleidiol i gael pleidlais y bobl, fel yr ateb gorau mae'n debyg, wrth gamu i'r dyfodol—nid yn unig ar ei feinciau cefn ond hefyd ar ei feinciau blaen, fel yr ydym ni wedi clywed yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth—fel y gallwn ni gael pleidlais rydd i'r Aelodau hynny sy'n dymuno arddel y safbwynt hwnnw?
Fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi gofyn am gyfarfod brys o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion, a gynhaliwyd neithiwr. A wnewch chi ddweud, o gofio bod y rhain yn amserau rhyfeddol, p'un a ydych chi wedi ceisio cael cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion cyn i chi adael eich swydd? Rydym ni'n cytuno â chi y bu dwy flynedd o anwadalu, nid yw'r amser ar ein hochr ni yn awr i roi ateb ymarferol wrth gamu i'r dyfodol, boed yn aelodaeth o'r farchnad sengl, aelodaeth o'r undeb tollau, neu bleidlais y bobl. A ydych chi'n cytuno mai dyma'r amser i ymestyn Erthygl 50 er mwyn caniatáu inni'r amser hwnnw i ganfod ffordd synhwyrol ymlaen?
Yn olaf, sylwaf iddo ddweud yn gynharach, mewn gwirionedd, bod gwleidyddiaeth San Steffan wedi methu'n llwyr. Ni allwn i gytuno mwy. Roeddwn i lawr yn San Steffan yn gynharach heddiw yn cyfarfod â Phrif Weinidog yr Alban i geisio llunio rhyw fath o ffordd synhwyrol ymlaen, yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin ymysg y gwrthbleidiau fel y gallwn ni mewn gwirionedd gynnig y math o arweinyddiaeth sydd wedi bod, yn anffodus, yn ddiffygiol. A fyddai'n cytuno, fodd bynnag, bod y diffyg arweinyddiaeth hwnnw sydd wedi nodweddu'r Llywodraeth Geidwadol yn sicr hefyd wedi bod yn wir yn ei blaid ei hun yn San Steffan oherwydd rhaniadau o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan ynghylch y mater hwn hefyd? Siawns y dylem ni achub ar y cyfle, pan fydd hi'n bryd pleidleisio yn y Senedd hon, i ddarparu'r math o arweinyddiaeth sydd wedi bod yn ddiffygiol ac anfon neges ddiamwys ein bod ni eisiau gweld Cymru'n cadw ei haelodaeth o'r farchnad sengl fan leiaf, ond, yn well fyth, i ni gael pleidlais y bobl i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.