Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau. Mae'n gofyn am y strategaeth yn y dyfodol. Bydd dadl yn y fan yma naill ai yr wythnos nesaf neu ddechrau'r wythnos ganlynol. Ein dealltwriaeth ni yw y cynhelir y bleidlais yn San Steffan yn ystod wythnos olaf y Senedd yn San Steffan, sef yr wythnos ar ôl, wrth gwrs, y bydd y Cynulliad yn terfynu, felly bydd hi'n hanfodol bod dadl yn y fan yma fel y gall yr Aelodau Seneddol fod yn ymwybodol o farn Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n deall y bu trafodaethau ynghylch cynnal hynny o bosibl ddydd Iau yr wythnos nesaf neu ddiwrnod arall o bosib. Byddai'n rhaid iddo fod, rwy'n credu, yn ddiwrnod penodol wedi'i glustnodi ar gyfer dadl mor bwysig, yn hytrach na cheisio ei wasgu i faterion busnes y Llywodraeth rhwng nawr a'r Nadolig. Felly, yn sicr, rwy'n derbyn bod angen gwneud hynny.
A gaf i ddweud wrtho fod y Cabinet wedi cytuno ar gynnig ddoe. Mae angen cyflwyno'r cynnig, wrth gwrs, ger bron ein grŵp, fel y gall ei ddychmygu. Mae'n ceisio bod mor gynhwysfawr â phosib. Mae'n cynnwys, er enghraifft, yr angen i edrych ar ymestyn cyfnod erthygl 50. Rwy'n credu bod hynny'n anochel os oes angen edrych eto ar y datganiad gwleidyddol yn arbennig. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr angen i'r cyhoedd fod yn rhan, a'r angen i gael dewisiadau nad ydyn nhw'n eithrio unrhyw ddewis, ac a fydd yn ffurfio rhan o'r cynnig, ac efallai bod hynny'n rhywbeth y gall ei weld pan gaiff y cynnig hwnnw ei lunio.
Mae'n gywir i ddweud nad yw fy nghyd-Brif Weinidog yn yr Alban na minnau wedi gweld y dogfennau hyn ar adeg a oedd, yn fy nhyb i, yn briodol. Gallwn ddeall os oedd amharodrwydd yn y Llywodraeth i rannu dogfennau gyda Llywodraeth arall rhag ofn beth allai ddigwydd i'r dogfennau hynny. Wel, rwyf wedi dweud droeon os ydym ni'n derbyn dogfennau cyfrinachol, byddwn yn eu cadw'n gyfrinachol. Os ydym ni'n torri'r cyfrinachedd hwnnw, y cwbl sy'n digwydd wedyn yw nad ydym ni'n cael y dogfennau hynny eto. Heblaw am hyn, wrth gwrs, gallai llawer o ddogfennau gael eu rhannu gyda mi ar delerau'r Cyfrin Gyngor, a fyddai'n golygu y gellid rhannu'r dogfennau hynny yn gyfrinachol ar y pryd.
Mae'n sôn am y cytundeb rhynglywodraethol. Mae ei safbwynt ef yn wahanol i fy un i yn hyn o beth. Fy marn i yw bod gennym ni gytundeb. Rhan o'r cytundeb hwnnw oedd cael gwared ar y Ddeddf Barhad. Fel y dywedais, gallai San Steffan yn syml ei diddymu beth bynnag gydag un llinell, ond yr hyn y mae'r Ddeddf Barhad wedi ei gyflawni i ni yw cytundeb rhynglywodraethol, y mae'r ddwy Lywodraeth wedi ymrwymo iddo. Nid oes unrhyw argoel y byddai Llywodraeth y DU eisiau cilio oddi wrth hynny. Mae'n bosib y bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan yn yr ychydig wythnosau nesaf, neu arweinydd newydd yn San Steffan yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac mae'r un peth yn wir am y fan yma, ond amheuaf yn fawr y byddai unrhyw un o fy olynwyr eisiau ymbellhau o'r cytundeb hwnnw. Felly, rwy'n credu, ar ôl ceisio dod i gytundeb, ei bod hi'n hanfodol ein bod yn cadw ewyllys da o ran y cytundeb hwnnw ac yn anrhydeddu ein rhwymedigaethau yn unol â hynny.
Mae'n sôn am gyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Rwy'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory. Rydym ni wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r cyfarfod llawn hwnnw. Mae'r dyddiad a gafwyd yn ddyddiad y gallaf warantu na fyddaf i yno oherwydd ei fod ar ôl fy nghyfnod i yn Brif Weinidog. Felly, rydym ni'n ceisio cael cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion yn gynharach na hynny. Mae'n hanfodol, a byddai'n hynod o bwysig.
O ran, wel, arweinyddiaeth yn San Steffan, rydym ni i gyd wedi gweld beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf. Nid yw'n gwneud unrhyw les i neb bod mewn sefyllfa lle nad yw'n bosib gwybod, fesul awr bron iawn, a fydd y Llywodraeth yn goroesi neu beidio. Yn y byd busnes, mae hynny'n rhywbeth yn sicr na fydden nhw'n ei groesawu, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi annog Llywodraeth y DU—ac rydym ni wedi gweithio gyda Phlaid Cymru ar hyn, gyda'r Papur Gwyn—i fabwysiadu dull pragmatig a synhwyrol o ymdrin â Brexit sy'n cydnabod pwysigrwydd y farchnad sengl, a mynediad dirwystr iddi; sy'n cydnabod pwysigrwydd yr undeb tollau i Gymru; ac sy'n cydnabod pwysigrwydd rhoi sicrwydd wrth wireddu canlyniad y refferendwm. Hyd yma, wrth gwrs, rydym ni ymhell o fod yn y sefyllfa honno.