Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Yn gyntaf oll, fe hoffwn i hefyd ailadrodd pa mor gywilyddus yw hi nad ymgynghorwyd yn ystyrlon â Chymru ynglŷn â'r cytundeb ymadael. Nid yw'n ddigon da, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid ddoe, dim ond gwrando ar yr hyn a ddywedwn ni ac yna mynd ymaith a dydym ni'n clywed dim mwy. Yr olaf o chwe phrawf y Blaid Lafur yw: a yw'n darparu ar gyfer holl ranbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig? Ac nid yw'n gwneud hynny, yn sicr. A yw Prif Weinidog Cymru yn credu, mewn gwirionedd, bod y cytundeb ymadael yn bodloni unrhyw un o'r chwe phrawf hynny a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur?
Mae'r cytundeb ymadael yn gosod allan sut y caiff dinasyddion a theuluoedd yr UE a dinasyddion y DU eu diogelu ar ôl inni adael yr UE. Dyna'r bobl sydd wedi dewis ble maen nhw eisiau byw yn unol â'u rhyddid i symud, a oedd, hyd yma, yn hawl i ni, o fewn yr UE. Nawr ein bod ni'n colli'r hawl hwnnw o ryddid i symud, onid yw'n cytuno bod yr ansicrwydd ynghylch pwy sy'n mynd i allu aros yn y wlad hon a phwy fydd yn dod yma yn y dyfodol yn achosi ansicrwydd mawr i fusnesau? Cefais gyfarfod ddoe â chyfarwyddwr cwmni o Ogledd Gaerdydd sy'n gwneud cynhyrchion meddygol ac sy'n dibynnu'n drwm ar staff Ewropeaidd. Roedd yn dweud wrthyf i, mewn gwirionedd, cymaint yr oedd yn tosturio wrth y staff hynny ar hyn o bryd, oherwydd eu bod mor ansicr—maen nhw'n teimlo mor ansicr ynghylch eu dyfodol. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth yn y ddogfen ymadael hon heddiw, ond nid ydym ni'n gwybod beth fydd ar y gorwel. Mae'n ansicr iawn ynghylch sut y bydd ei gwmni, sy'n gwmni gwerthfawr iawn yng Ngogledd Caerdydd, yn ffynnu yn y dyfodol, gyda'r cynigion ar gyfer mewnfudo yn y dyfodol a dim rhyddid i symud, ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod beth yw barn Cydffederasiwn Diwydiant Prydain am gynlluniau'r Llywodraeth o ran mewnfudo.
Felly, onid yw'n cytuno hefyd nad yw peth o'r rhethreg a defnyddiwyd o ran y mater mewnfudo wedi meithrin cysylltiadau da—geiriau Theresa May oedd y bydd ei chytundeb yn rhwystro gwladolion yr UE rhag 'neidio i flaen y rhes'—a pha mor ddiangen yw hi i ddefnyddio'r math yna o ymadrodd? Mae'n hau rhaniadau eto, ac rwy'n credu y cawsom ni cymaint o gynnydd sydyn mewn troseddau casineb pan gawsom ni'r refferendwm, ac adroddir am fwy o droseddau casineb bellach nag erioed o'r blaen, ac mae dyletswydd arnom ni, bob un ohonom ni wleidyddion, bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn gyda'r geiriau a ddefnyddiwn ni fel nad ydym ni, ar yr adeg anodd iawn, iawn yma, yn cynyddu'r teimladau o ansicrwydd sydd gan lawer o'n dinasyddion o ganlyniad i'r bleidlais gynhennus iawn hon a'r wleidyddiaeth gynhennus iawn hon yr ydym ni'n dyst iddi ar hyn o bryd. Felly, a oes gan y Prif Weinidog unrhyw sylwadau a hoffai eu gwneud am y mater penodol hwnnw?