Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Rwy'n ymddiheuro am gyrraedd yn hwyr. Diolch am hysbysiad ymlaen llaw am y datganiad hwn. Yn dilyn Brexit, bydd angen sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i gael eu croesawu yng Nghymru a'u bod nhw'n ymwybodol eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Bydd angen hefyd sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn cael eu hannog i fod yn eangfrydig a cheisio cyfleoedd i astudio dramor. Mae Plaid Cymru o'r farn y dylai myfyrwyr o Gymru allu astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd a chael cyfle i fyw a gweithio dramor. Roedd ein maniffesto yn 2016 yn addo rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr tro cyntaf sy'n hanu o Gymru ac yn cofrestru fel israddedigion mewn prifysgolion y tu allan i'r DU yn ogystal ag ehangu ein cefnogaeth i Erasmus+, fel y soniwyd eisoes heddiw, er mwyn i fwy o bobl ifanc gael gweld y byd a'u cyfoethogi yn sgil y profiadau hynny. Felly, mae'n dda gennyf glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adolygiad Diamond o ran cymorth i fyfyrwyr i astudio dramor.
Roeddech yn sôn bod yna £1.3 miliwn yn y cynllun peilot a bydd rhagor o fanylion i ddilyn. A gaf i ofyn pa bryd y daw'r manylion hynny, o ystyried y bydd angen inni graffu ar sut y caiff y buddsoddiad hwnnw ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yr arian hwnnw'n ddigon neu a ellid ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd neu a oes gan bartïon eraill syniadau ynghylch sut i ddefnyddio'r arian hwnnw.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi nid yn unig i'r Siambr hon ond i gymuned y myfyrwyr rhyngwladol sicrwydd y bydden nhw nid yn unig yn cael eu croesawu yng Nghymru ond yn cael eu gwerthfawrogi hefyd? Rwy'n deall mai ar gyfer galluogi myfyrwyr Cymru i fynd i wledydd eraill y bwriadwyd y cynllun hwn. Ond mae'n gweithio o'r tu arall hefyd. Os ydym yn awyddus i ddenu myfyrwyr rhyngwladol i Gymru, bydd yn ehangu profiadau'r myfyrwyr yn ein cenedl ni yma a bydd yn caniatáu i ni gwrdd â phobl na fyddem o bosib byth yn eu cyfarfod fel arall—yn fy achos i, fy ngŵr, felly, rwy'n ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cyfle hwnnw yma yng Nghymru.
Pa gyflwyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru gerbron Llywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad parhaus Cymru yn y rhaglenni cyfnewid myfyrwyr rhyngwladol ar ôl Brexit? A ydych chi'n gweld swyddogaeth i ryw fath o Bwyllgor y Rhanbarthau wrth helpu i hwyluso cydweithrediad parhaus yn y maes hwn, rhywbeth yr wyf i a'm cyd-Aelod, Mick Antoniw, sy'n eistedd ar Bwyllgor y Rhanbarthau ar hyn o bryd, yn rhoi ystyriaeth iddo?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer lliniaru'r gost o golli myfyrwyr o'r UE ar ôl Brexit? Rydym yn gweld gostyngiad yn nifer y ceisiadau, ac fel y dywedais yn y Siambr hon yn ddiweddar, mae Cymru eisoes ymhell i lawr yn nhabl y gynghrair o ran niferoedd y myfyrwyr a cheisiadau o'r UE. Felly, bydd gostyngiad pellach yn anodd iawn i'r sector AU i'w amsugno, pan fyddwn, bron yn sicr, yn gweld dirywiad pellach hyd yn oed yn niferoedd myfyrwyr o'r UE o ganlyniad i Brexit.
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith os na chawn ni aros yn rhan o gynllun Erasmus? Ac a ydych yn rhannu fy mhryder bod yr ieithwedd gynyddol wrthwynebus o ran dinasyddion yr UE a ddefnyddir gan y Prif Weinidog fel rhan o'i gwrthwynebiad caled i ryddid symudiad yr UE a'i hymgyrch i hybu ei chytundeb arfaethedig â'r UE yn peryglu cydweithrediad yn hyn o beth?
Yn olaf, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cynllun peilot i roi cymorth i fyfyrwyr i astudio ymhell i ffwrdd drwy gydol rhaglen eu gradd, fel y mae adolygiad Diamond yn ei argymell? Rwyf i o'r farn y byddai hynny'n rhywbeth i'w ystyried yn ei gyfanrwydd er mwyn annog pobl ifanc nid yn unig i gwblhau rhan o'u gradd dramor ond i gwblhau eu gradd i gyd dramor a dwyn y cyfoeth hwnnw a'r dalent honno i Gymru'n ôl.