Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 20 Tachwedd 2018.
A gaf i ddiolch i Janet am y cwestiwn hwnnw? A gaf i egluro mai'r rheswm pam yr ydym yn dewis cyfnodau cymharol fyr ar gyfer y cynllun peilot yw eu bod nhw'n caniatáu i fyfyrwyr sydd efallai â chyfrifoldebau eraill, na allen nhw fforddio'r amser i dreulio blwyddyn dramor, sef y cyfnod traddodiadol efallai y byddai llawer o fyfyrwyr yn ei ystyried yn gyfnod o astudiaeth ryngwladol?
Bydd y lleoliadau byr hyn, am ddwy wythnos i dair hyd at wyth wythnos, yn caniatáu, yn ein barn ni, yn dilyn ymchwil a gyflawnwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan OB3 Research a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru—. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl inni fanteisio i'r eithaf ar hyn. Bydd y grantiau penodol hyn ar gael ar gyfer y rhai sy'n astudio yn sefydliadau addysg uwch Cymru, fel yr argymhellwyd gan adolygiad Diamond. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes cyfleoedd sylweddol i astudiaeth ryngwladol yn y sector addysg bellach. Wrth gwrs, mewn llawer o ardaloedd, mae colegau addysg bellach yn darparu rhaglenni Lefel-A i'n myfyrwyr Seren ac yn cymryd rhan yn Rhaglen Seren. Rydych chi newydd fy nghlywed i'n sôn am ein cysylltiadau newydd â Phrifysgol Yale, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y rheini. Ac mae colegau addysg bellach wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth ennill cyllid Erasmus +. Mae ein sector ysgolion a'n colegau addysg bellach wedi rhagori yn hyn o beth. Fel y dywedais, rydym wedi cael mwy na chyfran ein poblogaeth o'r adnoddau yn sgil Erasmus+ ac mae hyn wedi golygu ariannu amrywiaeth o brosiectau cyffrous iawn mewn addysg bellach sydd wedi galluogi myfyrwyr addysg bellach sy'n astudio mewn colegau academaidd a galwedigaethol i gael cyfnodau o astudio dramor.
Yr her i ni ar hyn o bryd, Janet—ac efallai y gallwch chi ein helpu yn hyn o beth—yw argyhoeddi eich cyd-Aelodau yn Llywodraeth San Steffan i ganiatáu inni barhau i gymryd rhan lawn yn rhaglen Erasmus+. Ac, ar hyn o bryd, mae'n bell o fod yn glir, ar ôl 2020, a fyddwn ni'n gallu gwneud hynny. Mae Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth gwerth am arian. Rydym wedi bod yn fwy na pharod i gefnogi'r adolygiad hwnnw gyda'r holl ddata o Gymru, yr wyf yn credu eu bod yn pledio'r achos yn gryf iawn dros barhau i gymryd rhan yn y cynllun. Mae prifysgolion Cymru a cholegau Cymru yn glir iawn o ran eu dymuniad i barhau i gymryd rhan lawn yn Erasmus+, fel y mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Serch hynny, mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, nad yw'r lleisiau hynny yn cael eu clywed.
A byddwn, unwaith eto, yn ailadrodd y profiad o'r Swistir, a adawodd y rhaglen Erasmus+—gan benderfynu y gallen nhw wneud rhywbeth gwell ar eu liwt eu hunain. Yn y diwedd roedd wedi costio mwy o arian iddyn nhw am lai o gyfleoedd. Dylem ddysgu o hynny a pheidio â chredu y byddai rhyw gynllun unigol gan y DU yn disodli'n foddhaol estyniad a chyfranogiad yn Erasmus+, sef, fel y dywedais i, yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddymuno, yr hyn y mae myfyrwyr Cymru'n ei ddymuno, a'r hyn y mae prifysgolion a cholegau Cymru yn ei ddymuno.