Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch bod y cynnig ac anerchiad yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio at adroddiad 'Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017', oherwydd mae hynny yn dweud llawer o'r stori wrthym ni: yn amlwg, bod 48 y cant o'r trydan yr ydym ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru yn dod o ynni adnewyddadwy, a bod hynny wedi cynyddu 5 y cant. Mae hynny'n ddigon positif, wrth gwrs. Beth sy'n llai positif yw mai dim ond 751 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy sy'n installed sydd wedi'i berchnogi yn lleol, gan y gymuned, sydd yn amlwg yn faes lle mae angen cryn waith arno fe, oherwydd nid yn unig yn awyddus i weld datblygiad ynni adnewyddadwy yr ŷm ni, ond rŷm ni eisiau gwneud yn siŵr bod perchnogaeth yr ynni yna yn y dwylo iawn. Mae 63,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol ar un wedd, oes, ond wrth gwrs mae 94 y cant o'r rheini yn brosiectau solar PV ar doeon domestig. Nawr, mae hynny'n bositif, ond mae'n dangos cymaint o waith sydd ar ôl i'w wneud.
Mae gennym ni, fel rŷm ni wedi clywed, yr adnoddau naturiol, mae gennym ni'r cyfalaf naturiol yng Nghymru i fod yn un o'r gwledydd sy'n arwain y byd ar ynni adnewyddadwy. Y cwestiwn felly yw: pam nad ŷm ni'n arwain y byd? Beth sy'n ein dal ni nôl? Byddwn i'n dadlau bod y ddau welliant rŷm ni wedi rhoi gerbron y prynhawn yma yn trio tynnu sylw at hynny. Yn y lle cyntaf mae angen pwerau, wrth gwrs, i weithredu'r potensial hwnnw. Yn ail, mae angen yr ewyllys gwleidyddol, ond hefyd y modd a'r cyfrwng i wireddu'r potensial hwnnw. Rŷm ni'n galw am ddatganoli pwerau llawn dros ynni. Ni fyddai neb yn synnu ynglŷn â hynny, rydw i'n siŵr, ond mae e'n drawiadol bod agenda San Steffan yn y maes ynni yn symud i un cyfeiriad, ac ewyllys gwleidyddol y fan hyn yng Nghymru yn mynd i gyfeiriad gwahanol iawn. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at ffracio, er enghraifft, sydd yn un enghraifft glir o hynny.
Mae'r diffyg pwerau yna yn ein dal ni nôl. Edrychwch chi ar forlyn llanw bae Abertawe: petai'r cyfrifoldebau dros ynni wedi'u datganoli, nid oes gen i ddim amheuaeth y byddai fe'n digwydd. Mae'n debyg y byddai naill ai wedi digwydd neu y byddai wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Felly, os ydym ni o ddifri ynglŷn â gwireddu llawer o'n potensial, yna mae'n rhaid inni feddiannu'r pwerau i weithredu hynny ein hunain.