Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Dangosodd y Sefydliad Materion Cymreig yn ei brosiect Ail-egnïo Cymru bod angen mwy o uchelgais a gweithredu ymarferol ar unwaith er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer 100 y cant o ynni adnewyddadwy, ac mae'r camau hyn yn cynnwys uwchraddio effeithlonrwydd ynni. Wrth gwrs, fe gofiwch chi ein haddewid maniffesto ar gyfer cynllun ôl-ffitio gwerth biliynau o bunnau yma yng Nghymru. Mae hefyd yn sôn am sut y gallai rheoliadau adeiladu gynyddu effeithlonrwydd ynni. Rydych chi wedi cyfeirio at hynny, ond wrth gwrs Plaid Cymru oedd yr unig blaid yn y Cynulliad hwn oedd yn anfodlon ar y gwelliant bach iawn yn y Rheoliadau Rhan L a gyflwynwyd rai blynyddoedd yn ôl gan y Llywodraeth hon, a bellach wrth gwrs rydym ni ar ei hôl hi. Ffermydd gwynt ar y tir, ffermydd gwynt ar y môr a diogelu dyfodol gridiau trydan—mae'r cyfan yn y gwaith Ail-egnïo Cymru. Ac wrth gwrs nid yw ynghylch y pwyslais amgylcheddol yn unig, mae'r pwyslais economaidd yn glir hefyd, oherwydd gallai'r mathau hynny o fuddsoddiadau, yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, gefnogi 20,000 o swyddi bob blwyddyn ledled Cymru yn ystod cyfnod buddsoddi 15 mlynedd, gyda chyfanswm gwerth ychwanegol gros ar gyfer Cymru o bron i £7.5 biliwn yn cael ei greu o ganlyniad.
Fe wnaethoch chi sôn—wel, fe soniais i am Ynni Cymru. Fe wnaethoch chi sôn am atlas ynni, a dof at hynny mewn munud. Mae Ynni Cymru, wrth gwrs, yn fy marn i, yn un ffordd o hybu mwy o bwyslais ar ddatblygiad ynni sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen ac fe'i dywedaf eto, oherwydd bob tro y byddaf yn codi yn y mathau hyn o ddadleuon fe fyddaf i'n dweud hyn: Mae angen inni symud oddi wrth y model prif ganolfan a lloerennau o gynhyrchu ynni a symud tuag at we pryf copyn fwy gwasgaredig, lle defnyddir ynni'n lleol yn ogystal â'i gynhyrchu'n lleol. Bydd hynny'n rhoi'r cydnerthedd inni, ac mae'n digwydd yn yr Almaen, yr Iseldiroedd, Denmarc a gwledydd eraill ac mae angen i ninnau symud i'r cyfeiriad hwnnw hefyd. Rwy'n croesawu'r atlas ynni. Rwy'n credu y bydd yn ein helpu ni i fapio a modelu potensial adnoddau ynni adnewyddadwy ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad hwnnw yn galluogi cynllunio ynni strategol a fydd hefyd yn hwyluso ymagwedd o'r gwaelod i fyny tuag at ynni yn y tymor hwy.
Mae fy amser yn dod i ben felly fe soniaf am y gwelliannau yn gyflym iawn.