Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Gweinidog i geisio ystyried pa un a yw'r gwaith hwn sydd yn mynd rhagddo wedi cael y caniatâd perthnasol. Yn amlwg, os nad oes caniatâd wedi ei roi, yna fe ddylen nhw roi'r gorau iddi ar unwaith. Ac rwy'n credu bod gennym ni Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwrando ar lawer achlysur ar ddadleuon y Ceidwadwyr Cymreig ac wedi gwneud penderfyniadau ar sail y trafodaethau a gafodd hi gyda ni, ac rwy'n gobeithio ein bod ni'n curo ar ddrws agored o ran y penderfyniad hwn heddiw hefyd.