Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:40, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Madam Lywydd. Weinidog, mae system addysg a hyfforddiant galwedigaethol yr Almaen, a elwir hefyd yn system hyfforddi ddeuol, yn cael cydnabyddiaeth ym mhob cwr o’r byd oherwydd ei chyfuniad o addysg a hyfforddiant wedi'u hymgorffori yn yr amgylchedd gwaith go iawn. Prif nodwedd y system ddeuol yw cydweithrediad rhwng cwmnïau a cholegau, a reoleiddir gan y gyfraith. Mae busnesau sy'n cymryd rhan yn y cynllun hyfforddi deuol yn ystyried mai dyma'r math gorau o recriwtio personol am ei fod yn arbed costau recriwtio sydd eu hangen ar gyfer y sgiliau a'r llafur gofynnol. Pa astudiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o system yr Almaen i weld a oes gwersi i'w dysgu a allai fod o fudd i ni yng Nghymru?