1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.
Diolch, Madam Lywydd. Weinidog, mae system addysg a hyfforddiant galwedigaethol yr Almaen, a elwir hefyd yn system hyfforddi ddeuol, yn cael cydnabyddiaeth ym mhob cwr o’r byd oherwydd ei chyfuniad o addysg a hyfforddiant wedi'u hymgorffori yn yr amgylchedd gwaith go iawn. Prif nodwedd y system ddeuol yw cydweithrediad rhwng cwmnïau a cholegau, a reoleiddir gan y gyfraith. Mae busnesau sy'n cymryd rhan yn y cynllun hyfforddi deuol yn ystyried mai dyma'r math gorau o recriwtio personol am ei fod yn arbed costau recriwtio sydd eu hangen ar gyfer y sgiliau a'r llafur gofynnol. Pa astudiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o system yr Almaen i weld a oes gwersi i'w dysgu a allai fod o fudd i ni yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn. Cyfarfûm yn ddiweddar â diwydiannau o'r Almaen i drafod y mater hwn. Fe wnaethant gyflwyno eu model o’r hyn sy’n fodel llwyddiannus yn yr Almaen. Gwn fod fy rhagflaenydd yn y rôl hon wedi bod yn yr Almaen mewn gwirionedd ac wedi edrych ar y model a cheisio deall a oedd unrhyw beth y gallem ei ddysgu o'r system. Rwy'n credu bod natur y systemau addysg yn wahanol iawn, ac nid oes ganddynt yr un nifer o awdurdodau lleol. Felly, mae'n anodd iawn dewis un model a'i blannu yma, ond credaf mai'r hyn rydym wedi'i gydnabod yw bod dysgu yn y swydd a deall y ffordd honno o gymhwyso addysg yn ymarferol yn rhywbeth sy'n fuddiol. Rwyf newydd fod mewn cyflwyniad peirianneg i fyny'r grisiau lle roeddent yn dweud yn union hynny—fod dysgu trwy brofiad o’r fath yn gwreiddio'r dysgu yn y myfyriwr. Dyna pam y rhoesom bwyslais go iawn ar y model prentisiaeth. Dyna pam rwy'n credu ein bod ni'n falch iawn o'r hyn y gallasom ei gyflawni ar hyn a pham ein bod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni’r 100,000 o brentisiaethau a addawyd gennym yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Diolch yn fawr iawn wir, Weinidog. Rwy'n falch ein bod yn meddwl ar yr un lefel. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn talu i'r cyflogwr gynnig prentisiaethau. Yn yr Almaen, nid yw'r Llywodraeth yn talu'r cyflogwyr ond mae'n talu am offer a gweithrediad y colegau galwedigaethol, sydd oddeutu 16 y cant o gyfanswm cost hyfforddi deuol. Y cwmnïau sy'n darparu hyfforddiant sy'n cyfrannu'r gyfran fwyaf o'r arian am hyfforddiant deuol—tua 80 y cant o'r gost. O ganlyniad, mae prentisiaethau'r Almaen o ddifrif yn cael eu harwain gan y cyflogwyr a'r sefydliadau cyflogwyr hynny sy'n gwneud y rhan helaethaf o hyfforddiant yn y gweithle. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru yn diwallu angen cyflogwyr Cymru'n well?
Mae hyn eto yn rhywbeth arall a drafodais gyda'r cynrychiolydd o'r Almaen. Fe fuom yn trafod sut y llwyddent i ddarbwyllo cwmnïau yn yr Almaen ei bod o fudd iddynt fuddsoddi yn eu gweithwyr eu hunain. Dros y blynyddoedd, credaf ein bod wedi cael cryn dipyn o gyllid Ewropeaidd, ac mae llawer o gyflogwyr yng Nghymru wedi dod i ddibynnu ar arian Ewropeaidd i wella sgiliau eu gweithwyr. Credaf fod angen inni ddechrau eu cael i ddeall bod yn rhaid iddynt roi eu dwylo yn eu pocedi eu hunain hefyd mae'n debyg er mwyn gwella sgiliau eu gweithwyr eu hunain a'i bod o fudd iddynt wella sgiliau eu gweithwyr, gan y bydd eu cynhyrchiant yn cynyddu a bydd eu proffidioldeb yn cynyddu o ganlyniad i hynny. Mae hynny'n wahanol iawn i'r diwylliant sy'n bodoli yn yr Almaen, lle y ceir dealltwriaeth eu bod yn gwneud cyfraniad. Felly, rydym yn gweithio tuag at y newid hwnnw.
Ar y berthynas a gwneud yn siŵr fod y cyrsiau a ddarperir gennym yn berthnasol, fe fyddwch yn gwybod ein bod o ddifrif yn ceisio gwthio'r mater hwn mewn perthynas â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rydym wedi rhoi'r arian ychwanegol hwnnw ar y bwrdd, ac ni all colegau addysg bellach ei gyffwrdd oni bai eu bod yn ymateb i anghenion sgiliau cyflogwyr lleol.
Diolch ichi, Weinidog. Beirniadaeth arall a anelwyd yn erbyn cynlluniau prentisiaeth yng Nghymru yw eu bod o fudd i gwmnïau mwy o faint yn bennaf, ac nid busnesau bach a chanolig. Yn yr Almaen, ceir system barhaol o hyfforddiant, sy'n fuddiol i gwmnïau mawr a busnesau bach a chanolig. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru yn ystyried anghenion busnesau bach a chanolig yn ogystal â chwmnïau mwy o faint?
Wel, yr ateb i hynny yw 'llawer mwy nag y maent yn ei wneud yn Lloegr'. Y peth diddorol yw bod yr ardoll brentisiaethau yn cael ei thalu gan gwmnïau mawr, a'u bod, i bob pwrpas, yn cael talebau i'w gwario a dim ond y cwmnïau mawr sydd â mynediad at y system brentisiaethau. Bu'n gymaint o lanastr fel bod y system ei hun yn chwalu yn Lloegr.
Nid ydym wedi dilyn y llwybr hwnnw oherwydd credwn ei bod yn hanfodol ein bod yn cefnogi busnesau bach a chanolig yn ogystal. Rydym yn edrych am brentisiaethau o ansawdd, nid niferoedd mawr yn unig, a dyna a wnânt yn Lloegr. Felly, credaf y gallwn fod yn falch iawn o'r gwaith a wnawn gyda busnesau bach a chanolig. Yfory, byddaf yn cyfarfod â'r diwydiant awyrofod, lle maent wedi dod ynghyd i ddarparu busnesau bach a chanolig ar draws nifer o feysydd—cwmnïau gwahanol sy'n deall bod modd iddynt fanteisio ar ei gilydd. Felly, rydym yn ceisio gwneud llawer mwy o rannu prentisiaethau, fel nad yw'r baich ar unrhyw gwmni bach penodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Yn sgil y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur a negodwyd ddwy flynedd yn ôl, fe gytunwyd y byddai £2 miliwn yn cael ei ddefnyddio'n benodol ar gyfer hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Fe fyddwch chi'n ymwybodol mai'r hyn a oedd yn greiddiol i'r cytundeb rhwng Plaid a chithau oedd ymrwymiad i sefydlu asiantaeth iaith hyd-braich i wneud gwaith hyrwyddo a chynllunio ieithyddol angenrheidiol. A fedrwch chi ein goleuo ni ar beth ddigwyddodd i'r addewid yna i sefydlu asiantaeth a pham na wireddwyd hynny?
Wel, beth roeddem ni'n gobeithio, wrth gwrs, oedd y byddai'r comisiynydd yn gwneud mwy o'r gwaith hyrwyddo yma. A gan fod hynny wedi bod yn anodd, efallai, i'r comisiynydd ei wneud, mae peth o'r gwaith yna wedi dod i mewn ac yn cael ei wneud gan swyddogion y tu fewn i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, yn ddelfrydol, byddwn i'n licio cael pobl hyd-braich, pobl sydd â'r sgiliau y tu fas i'r Llywodraeth yn gwneud y math hwn o waith. Ac, wrth gwrs, yn ddelfrydol beth fyddwn i'n hoffi ei weld, fel rydym ni wedi dweud yn y Papur Gwyn, yw bod y comisiwn newydd yn cael y cyfrifoldeb yma. Ac, wrth gwrs, mi fyddai'r comisiwn yna yn fudiad hyd-braich oddi wrth y Llywodraeth.
Felly rydych chi'n dal i sôn am greu comisiwn sydd ynghlwm â'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg, ond yn y pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf, mi ddywedoch chi fod popeth i fyny yn yr awyr yn sgil Brexit, a wnaethoch chi ddim rhoi unrhyw addewid y byddai yna Fil cyn diwedd tymor y Cynulliad yma, na chomisiwn ychwaith.
Yn eich maniffesto ar gyfer eich gobeithion i ddod yn Brif Weinidog Cymru, rwy'n deall nad oes yna sôn am un o brif bolisïau’r Llywodraeth ac, yn wir, y prif bolisi rydych chi wedi bod yn gyfrifol am ei hyrwyddo, sef y targed o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nac unrhyw sôn am Fil y Gymraeg. A allwn ni gymryd o hynny nad ydych chi'n teimlo'n angerddol am gynigion Bil y Gymraeg ac na fyddan nhw'n cael eu parhau petaech chi'n dod yn Brif Weinidog?
Wel, nid wyf yn meddwl ei fod yn briodol i fi ymateb i beth sydd yn fy maniffesto personol i fel siaradwraig dros Lywodraeth Cymru yn fan hyn. Beth y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw, o ran Bil y Gymraeg, wrth gwrs rydym ni'n gobeithio y bydd y Bil yna'n dod ger ein bron ni. Ar hyn o bryd, rydych chi jest mor ymwybodol ag yr ydw i o'r mès sydd yn digwydd o ran Brexit, a dyna'r unig reswm pam rydym ni mewn sefyllfa i fod yn glir nad yw hi'n bosibl i wneud yr ymrwymiad yna y byddwn i'n hoffi ei wneud achos y caos sy'n digwydd o ganlyniad i Brexit ar hyn o bryd.
Rwy'n meddwl ei fod o'n berthnasol iawn fy mod i yn gofyn y cwestiwn ichi a, na, ges i ddim ateb, wrth gwrs.
Mi wnaethoch chi gydnabod yn y pwyllgor diwylliant hefyd fod y trefniadau hyrwyddo—i fynd yn ôl at hyrwyddo—yn ddiffygiol ac nad oes gan is-adran y Gymraeg yn ei ffurf bresennol y capasiti i fod yn gwneud y gwaith hyrwyddo ystyrlon a strategol. Mae dirfawr angen gweithredu ar gynllunio ieithyddol i greu'r 1 miliwn o siaradwyr, ac mae gen i gyngor gan Wasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad sy'n dangos y gellid sefydlu asiantaeth hyd-braich i hyrwyddo'r Gymraeg heb ddeddfwriaeth o'r newydd, ac yn cyfeirio at waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sefydlu'r corff hwnnw efo cyfrifoldebau eang drwy femorandwm ac erthyglau.
Maes arall mae'ch diffyg cyfeiriad chi efo'r Bil a'r strategaeth yn effeithio arno fo ydy gallu pobl i gael gwasanaethau Cymraeg wrth ymwneud efo cyrff sy'n hanfodol i fywydau pob dydd dinasyddion. Ac yn wahanol i'r hyn y gwnaethoch chi awgrymu yn y pwyllgor, o weithredu'r Mesur presennol i'r eithaf mi fedrwch chi osod safonau ar y cyfleustodau, ar gwmnïau trafnidiaeth, ar gymdeithasau tai ac ar gwmnïau telathrebu. Felly, os nad oes yna amserlen ar gyfer sefydlu comisiwn, na chwaith amserlen ar gyfer cyflwyno Bil y Gymraeg, a gaf i ofyn i chi am amserlen ynglŷn â hyn? Pryd bydd modd i bobl Cymru gael mynediad i'r gwasanaethau allweddol yma sydd ddim yn ddibynnol ar ddeddfwriaeth newydd?
Rwy'n meddwl bod gwaith aruthrol wedi cael ei wneud eisoes yn fewnol, y tu fewn i'r Llywodraeth, o ran hyrwyddo'r Gymraeg, ac fe fyddwn i'n licio gweld y comisiynydd yn gwneud mwy o'r gwaith hwnnw, ac rŷm ni mewn trafodaethau i weld, o ganlyniad i'r ffaith na fyddwn yn gweld gosod mwy o safonau ar hyn o bryd, a fydd yna bosibilrwydd y bydd mwy o'r gwaith hwnnw yn cael ei wneud gan y comisiynydd presennol. Dyna'r weledigaeth; dyna beth rŷm ni'n gobeithio ei wneud. Ond rwyf yn meddwl bod lot fawr o waith wedi cael ei wneud yn ystod y ddwy flynedd diwethaf o ran hyrwyddo.
O ran gosod safonau, wrth gwrs, rŷm ni wedi dweud ein bod ni'n mynd i gael seibiant wrth i ni ddatblygu'r Bil, ac rŷm ni yn, wrth gwrs, gobeithio y bydd y Bil yma yn cael ei gyflwyno a'i basio yn ystod y cyfnod yma, cyn ein bod ni'n cael yr etholiad nesaf. Felly, nid wyf yn meddwl bod dim byd wedi newid, heblaw am y ffaith bod Brexit yn debygol o wneud pob math o lanast o unrhyw drefniadau sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Tua 18 i 20 mlynedd yn ôl, fe wnaeth cyn-Brif Weinidog y DU, Tony Blair, addewid enwog i sicrhau bod 50 y cant o oedolion ifanc yn camu ymlaen i addysg uwch erbyn 2010. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r targed hwn yn frwdfrydig gan fod y ffigurau diweddaraf yn dangos ein bod yn agos at gyrraedd y targed hwnnw yng Nghymru. Fodd bynnag, Weinidog y Cabinet, y broblem yw bod bron i hanner ein graddedigion newydd yn gweithio mewn swyddi nad ydynt yn galw am radd. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hyn yn dangos gwrthdaro sylweddol rhwng yr addysg y mae myfyrwyr yn ei chael a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiant?
Nac ydw, nid wyf yn credu bod hynny'n wir. Rwyf am sicrhau bod myfyrwyr o Gymru sydd â gallu academaidd a'r awydd i astudio ar lefel addysg uwch yn cael cyfle i wneud hynny, ac yn cael eu cefnogi gan y system fwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.
Diolch ichi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym ni yn UKIP yn credu y byddai llawer o fyfyrwyr yn well eu byd o ddilyn llwybr arall tuag at eu gyrfa ddewisol; mewn geiriau eraill, dylid cysylltu addysg yn agosach â chyflogadwyedd yn hytrach na chymwysterau addysgol pur. O ystyried ystadegau fel y rhai a ddyfynnwyd yn adran Cymru o'r arolwg o sgiliau cyflogwyr yn 2017, sy'n dangos cynnydd sylweddol yn y gyfran o swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn y sector adeiladu, er enghraifft—mae tua 40 y cant o'r swyddi gwag yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn deillio o brinder sgiliau—onid yw'n bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi llawer mwy o bwyslais yn awr ar roi addysg alwedigaethol i'n plant?
Lywydd, a'n gwaredo rhag rhoi gwerth ar addysg er ei mwyn ei hun. A gaf fi ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio addysg ôl-orfodol a hyfforddiant yn gynhwysfawr, er mwyn ceisio chwalu'r rhwystrau rhwng addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau i ganiatáu i fyfyrwyr allu cael cyfleoedd dysgu mwy hyblyg? Yn ddiweddar, cyfarfûm â bachgen bach a ddywedodd mai ei ddyhead oedd naill ai gwneud prentisiaeth neu fynd i brifysgol. Rwy'n gobeithio erbyn y bydd yn 18 oed na fydd yn rhaid iddo ddewis; bydd yn gallu gwneud prentisiaeth gradd uwch drwy hyfforddiant yn y gwaith a bod yn y brifysgol.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae gan adroddiadau rhanbarthol ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru stori ddiddorol i'w hadrodd hefyd o ran prinder sgiliau. Mae lefelau uchaf fy rhanbarth, de-ddwyrain Cymru, o swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn y sectorau gweithgynhyrchu, adeiladu, trafnidiaeth a chyfathrebu. Mae'r darlun ychydig yn wahanol yn rhanbarth canolbarth Cymru, lle mae eich etholaeth chi wrth gwrs—gwasanaethau busnes, trafnidiaeth a chyfathrebu sydd â'r lefelau uchaf o swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn y rhan honno o Gymru. Byddai hyn yn awgrymu y dylai hyfforddiant galwedigaethol a roddir i'n myfyrwyr ddilyn patrwm rhanbarthol; hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig ni ddylent ganolbwyntio ar amaethyddiaeth yn unig. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw'r sector addysgol yn ymwybodol o'r amrywiaeth hon ac a yw'n mynd i'r afael â'r anghenion hyn yn ddigonol, yn enwedig mewn perthynas â'r sector galwedigaethol?
Wel, wrth gwrs, Lywydd, mae'r Aelod yn gywir i ddweud y bydd gwahanol ardaloedd yng Nghymru angen gwahanol setiau o sgiliau i ymateb yn briodol i'r economi yn yr ardal honno. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad a roddwyd ddoe gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros sgiliau a dysgu gydol oes, a soniai am y diwygiadau i'r ffordd rydym yn ariannu addysg bellach, er enghraifft, fel bod darpariaeth golegol yn cyd-fynd yn well gyda galwadau'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a busnesau lleol, felly ceir mwy o synergedd rhwng y cyrsiau coleg sy'n cael eu cynnig mewn ardal leol er mwyn diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr yr ardal honno.