Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Bangor

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:35, 21 Tachwedd 2018

Diolch yn fawr iawn. Mi wnes i ddathlu fel pe bai'n ben-blwydd arnaf i—27 Awst, gyda llaw—pan gawsom ni'r newyddion ychydig wythnosau yn ôl fod addysg feddygol yn mynd i gael ei chyflwyno ym Mangor o'r flwyddyn academaidd nesaf yma. Mae Siân Gwenllian a finnau, a thîm Plaid Cymru yn ehangach, wedi brwydro'n galed iawn am hyn, ac roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb efo'r Llywodraeth i sicrhau'r arian i wthio hyn yn ei flaen. Mae fy niolch i'n fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud i hyn ddigwydd, neb llai, wrth gwrs, na'r timau ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, gan mai partneriaeth rhwng y ddwy brifysgol fydd y datblygiad cyffrous yma.

Fy nghwestiwn i heddiw yma ydy pa waith y mae Llywodraeth Cymru a'ch adran chi yn ystyried ei wneud er mwyn hysbysu pobl ifanc yn lleol fod hyn yn digwydd, fel eu bod nhw'n gallu dechrau gwneud penderfyniadau addysgol gwahanol o bosib, er mwyn paratoi'r llwybr at y cwrs yma. Yn ehangach na hynny, pa waith a all gael ei wneud i hyrwyddo'r opsiwn yma ar gyfer myfyrwyr a graddedigion yng Nghymru ar hyn o bryd?