1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 21 Tachwedd 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor? OAQ52969
Lywydd, mae'n amlwg nad yw wedi gwneud unrhyw niwed i chi na David Melding o ran pryd y cawsoch eich geni.
Diolch, Rhun. Darparodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ddiweddariad manwl ar addysg feddygol yng Nghymru yn ei lythyr at Aelodau'r Cynulliad a anfonwyd ar 13 Tachwedd. Cadarnhaodd hyn y bydd y rhaglen lawn gyntaf o addysg feddygol i gael ei chynnig yng ngogledd Cymru yn dechrau yn 2019.
Diolch yn fawr iawn. Mi wnes i ddathlu fel pe bai'n ben-blwydd arnaf i—27 Awst, gyda llaw—pan gawsom ni'r newyddion ychydig wythnosau yn ôl fod addysg feddygol yn mynd i gael ei chyflwyno ym Mangor o'r flwyddyn academaidd nesaf yma. Mae Siân Gwenllian a finnau, a thîm Plaid Cymru yn ehangach, wedi brwydro'n galed iawn am hyn, ac roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb efo'r Llywodraeth i sicrhau'r arian i wthio hyn yn ei flaen. Mae fy niolch i'n fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud i hyn ddigwydd, neb llai, wrth gwrs, na'r timau ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, gan mai partneriaeth rhwng y ddwy brifysgol fydd y datblygiad cyffrous yma.
Fy nghwestiwn i heddiw yma ydy pa waith y mae Llywodraeth Cymru a'ch adran chi yn ystyried ei wneud er mwyn hysbysu pobl ifanc yn lleol fod hyn yn digwydd, fel eu bod nhw'n gallu dechrau gwneud penderfyniadau addysgol gwahanol o bosib, er mwyn paratoi'r llwybr at y cwrs yma. Yn ehangach na hynny, pa waith a all gael ei wneud i hyrwyddo'r opsiwn yma ar gyfer myfyrwyr a graddedigion yng Nghymru ar hyn o bryd?
Diolch, Rhun. Fel chi, rwy’n falch iawn fod y cyfleoedd hyn ar gael i fyfyrwyr yng ngogledd Cymru. Yn amlwg, mae llwybrau i mewn i ysgol feddygol yn dechrau o'r dewisiadau y mae plant yn eu gwneud pan fyddant yn gwneud eu TGAU. Dyna pam, y tymor hwn, rydym yn gweld ein rhaglen Seren ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno. Rhaglen yw hon sy'n ceisio cefnogi plant yn gynharach yn eu gyrfa addysgol, gan roi iddynt yn union y math hwn o gyngor ar opsiynau TGAU, dyheadau o ran gyrfaoedd a chyfleoedd ar gam cynharach.
Yn amlwg, mae prifysgolion yn gyrff ymreolaethol ac ni allwn orchymyn pwy y maent yn eu derbyn i'w rhaglenni, ond yn dilyn newidiadau i'r rhaglen ymgeisio a derbyn yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, sy'n gweithio mewn partneriaeth â gogledd Cymru a gorllewin Cymru i ehangu addysg feddygol, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n ennill lle i astudio meddygaeth yn eu sefydliadau. Felly, bellach mae 30 y cant o’r myfyrwyr yng Nghaerdydd a 50 y cant o’r myfyrwyr yn rhaglen ôl-raddedig Abertawe yn fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru. Mewn gwirionedd, rydym yn gweld nifer fwy nag erioed o bobl ifanc Cymru yn cael eu derbyn i ysgolion meddygol ledled y Deyrnas Unedig. Mae ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru i astudio meddygaeth wedi codi 14 y cant pellach ar gyfer y cylch ymgeisio eleni. Felly, mae'n amlwg bod diddordeb mawr iawn ymhlith ein myfyrwyr ysgol a choleg yng Nghymru mewn dilyn cyrsiau mewn meddygaeth a dyna pam fod ehangu nifer y lleoedd ym Mangor ac yng ngorllewin Cymru, ar y cyd ag Abertawe, yn golygu bod ein myfyrwyr, rwy'n credu, mewn sefyllfa dda i fanteisio ar yr ehangiad hwnnw.
Mae'n 18 mis ers i mi ofyn i'r Prif Weinidog yma i sicrhau bod yr achos busnes ar gyfer ysgol feddygol newydd ym Mangor yn cynnwys deialog gydag ysgol feddygol Lerpwl ar ôl i bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru fynegi pryder fod y cyflenwad blaenorol oddi yno, o ble y daeth llawer o'u cenhedlaeth hwy o feddygon teulu, wedi cael ei atal i raddau helaeth.
Felly yn ogystal â'r addysg feddygol sydd i’w darparu ym Mangor trwy'r dull cydweithredol â Chaerdydd ac Abertawe, darpariaeth sydd i’w chroesawu’n fawr, sut rydych yn ymateb i'r galwadau parhaus gan bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru i ymgorffori cysylltiadau ag ysgolion meddygol Lerpwl a Manceinion ac adfer y cyflenwad o feddygon ifanc newydd i ogledd Cymru o’r fan honno, pan fo llawer o feddygon dan hyfforddiant yn dal i ddewis astudio yno o bosibl ochr yn ochr â'u hastudiaethau yng Nghymru?
Wel, wrth gwrs, Mark. Fel y dywedais, rydym wedi gweld nifer uwch nag erioed o fyfyrwyr o Gymru yn ennill lle mewn ysgol feddygol, boed hynny mewn ysgolion meddygol yma yng Nghymru, neu yn wir, yng ngweddill y DU, sy'n dangos cryfder a gallu ein myfyrwyr safon uwch yn llwyddo i ennill y llefydd hynny. Nid wyf wedi cymryd rhan yn bersonol yn y trafodaethau â darparwyr ar draws y ffin. Fy mlaenoriaeth yw cefnogi'r gwaith caled sy'n digwydd rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, gwaith sydd ar gam datblygedig ac yn dangos dau sefydliad yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. A gadewch i ni fod yn hollol glir: bydd yr ehangiad newydd hwn yn darparu llwybrau i feddygon gael eu hyfforddi'n gyfan gwbl yn ngogledd Cymru, gan alluogi myfyrwyr meddygol i astudio yng ngogledd Cymru ar gyfer eu gradd yn llawn ac i gynllunio ar gyfer eu hyfforddiant ôl-raddedig, a chredaf fod hynny i’w groesawu'n fawr iawn.