Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn wir, Weinidog. Rwy'n falch ein bod yn meddwl ar yr un lefel. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn talu i'r cyflogwr gynnig prentisiaethau. Yn yr Almaen, nid yw'r Llywodraeth yn talu'r cyflogwyr ond mae'n talu am offer a gweithrediad y colegau galwedigaethol, sydd oddeutu 16 y cant o gyfanswm cost hyfforddi deuol. Y cwmnïau sy'n darparu hyfforddiant sy'n cyfrannu'r gyfran fwyaf o'r arian am hyfforddiant deuol—tua 80 y cant o'r gost. O ganlyniad, mae prentisiaethau'r Almaen o ddifrif yn cael eu harwain gan y cyflogwyr a'r sefydliadau cyflogwyr hynny sy'n gwneud y rhan helaethaf o hyfforddiant yn y gweithle. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru yn diwallu angen cyflogwyr Cymru'n well?