Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch ichi, Weinidog. Beirniadaeth arall a anelwyd yn erbyn cynlluniau prentisiaeth yng Nghymru yw eu bod o fudd i gwmnïau mwy o faint yn bennaf, ac nid busnesau bach a chanolig. Yn yr Almaen, ceir system barhaol o hyfforddiant, sy'n fuddiol i gwmnïau mawr a busnesau bach a chanolig. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru yn ystyried anghenion busnesau bach a chanolig yn ogystal â chwmnïau mwy o faint?