Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Wel, wrth gwrs, Lywydd, mae'r Aelod yn gywir i ddweud y bydd gwahanol ardaloedd yng Nghymru angen gwahanol setiau o sgiliau i ymateb yn briodol i'r economi yn yr ardal honno. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad a roddwyd ddoe gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros sgiliau a dysgu gydol oes, a soniai am y diwygiadau i'r ffordd rydym yn ariannu addysg bellach, er enghraifft, fel bod darpariaeth golegol yn cyd-fynd yn well gyda galwadau'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a busnesau lleol, felly ceir mwy o synergedd rhwng y cyrsiau coleg sy'n cael eu cynnig mewn ardal leol er mwyn diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr yr ardal honno.