Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:52, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Tua 18 i 20 mlynedd yn ôl, fe wnaeth cyn-Brif Weinidog y DU, Tony Blair, addewid enwog i sicrhau bod 50 y cant o oedolion ifanc yn camu ymlaen i addysg uwch erbyn 2010. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r targed hwn yn frwdfrydig gan fod y ffigurau diweddaraf yn dangos ein bod yn agos at gyrraedd y targed hwnnw yng Nghymru. Fodd bynnag, Weinidog y Cabinet, y broblem yw bod bron i hanner ein graddedigion newydd yn gweithio mewn swyddi nad ydynt yn galw am radd. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hyn yn dangos gwrthdaro sylweddol rhwng yr addysg y mae myfyrwyr yn ei chael a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiant?