Staff Asiantaeth yn y Proffesiwn Addysgu

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:05, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n rhannu'r pryderon a fynegwyd gan fy nghyd-Aelodau Angela Burns a Caroline Jones, ac rwy'n parhau i ymdrin â gwaith achos gan athrawon cyflenwi anniddig yn fy etholaeth. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag athro cyflenwi a ddywedodd wrthyf am achos brawychus lle mae asiantaeth gyflenwi'n cynnig cymhellion honedig, megis tocynnau i gemau rygbi rhyngwladol, i benaethiaid er mwyn hyrwyddo eu busnes. A ydych yn ystyried bod hyn yn briodol, ac os nad ydych, pa ymyriadau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith?