1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 21 Tachwedd 2018.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau costau staff asiantaeth yn y proffesiwn addysgu? OAQ52959
Diolch i chi am y cwestiwn. Yn ddiweddar cyhoeddodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fanyleb tendr newydd ar gyfer comisiynu gweithwyr asiantaethau addysg, sy'n egluro'r sefyllfa o ran ffioedd asiantaeth. Awdurdodau lleol ac ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i reoli'r defnydd o athrawon cyflenwi a monitro gwariant ar asiantaethau'n briodol o dan y trefniadau diwygiedig.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwario tua £40 miliwn y flwyddyn ar athrawon cyflenwi, gyda'r rhan fwyaf ohono'n mynd i asiantaethau, sy'n codi gormod ar ysgolion heb dalu digon i staff. Ni allwn ymdopi heb athrawon cyflenwi, ond fel y mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru wedi pwysleisio, mae athrawon cyflenwi'n tueddu i gael eu trin yn eithriadol o wael o ran cyflog, amodau gwaith a diffyg parch cyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo heddiw i ariannu ac ehangu'r prosiect athrawon cyflenwi, sy'n gweld clystyrau o ysgolion yn rhannu athrawon sydd newydd gymhwyso i gyflenwi dros staff sy'n absennol, gan leihau ein gorddibyniaeth ar asiantaethau athrawon?
Diolch i chi, Caroline, am eich cefnogaeth i gynlluniau peilot y clystyrau athrawon cyflenwi a gyflwynwyd gennyf. Mae'r buddsoddiad o £2.7 miliwn yn y prosiect hwnnw yn sicrhau bod 15 ardal awdurdod lleol yn cymryd rhan, ac mae gennym 50 o athrawon yn gweithio ar draws 100 o ysgolion yn rhan o hynny. Mae'r gwaith o werthuso’r prosiect peilot hwnnw newydd ddechrau. Mae angen inni ddysgu gwersi ynglŷn â pha rannau ohono sydd wedi gweithio'n dda, pa rhannau, os o gwbl, sydd heb weithio'n dda a'r cyfleoedd y mae'r cynllun peilot yn eu rhoi i ni o ran ymestyn y rhaglen ymhellach.
Gadewch imi fod yn gwbl glir ein bod wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i sicrhau bod y fanyleb fframwaith newydd ar gyfer gweithwyr asiantaeth, a gyhoeddwyd ar 12 Tachwedd, yn rhoi sylw i arferion gwaith teg ac isafswm cyfraddau cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi ac yn cynnig mwy o dryloywder o ran y ffioedd y gall asiantaethau eu codi. Mae'n bwysig nodi nad ni sy'n cyflogi athrawon, ac rwy'n disgwyl y bydd pob corff cyhoeddus sy'n gyflogwyr yn cadw at egwyddorion gwaith teg a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi o ran ffynhonnell eu gwaith. Hoffwn ychwanegu hefyd fy mod ar hyn o bryd yn ystyried gweithredu safonau sicrwydd ansawdd gorfodol ar gyfer asiantaethau cyflenwi er mwyn ategu a chefnogi'r newid i fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb hwnnw i Caroline. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol, dair blynedd yn ôl, fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cynnal ymchwiliad i'r holl ddarpariaeth o athrawon cyflenwi, ac un gost nad yw bob amser yn cael ei chydnabod yw'r effaith y mae athro cyflenwi'n ei chael ar ganlyniadau disgyblion, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig a'r cysylltiadau ag ymddygiad gwael disgyblion. Nawr, o'r tua 20 o argymhellion a wnaed gennym, cafodd y rhan fwyaf ohonynt naill ai eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor, ac un ohonynt oedd ymrwymiad i wneud gwaith ymchwil i effeithiau gwaith athrawon cyflenwi ar y meysydd penodol hyn, h.y. canlyniadau disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig ac ymddygiad disgyblion. A ydych wedi gallu ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwnnw neu a yw'n rhan o waith y clystyrau y sonioch chi wrth Caroline amdanynt?
Mae wedi'i gynnwys yn y sylfaen dystiolaeth rydym wedi seilio'r prosiect peilot arni. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwaith athrawon cyflenwi yn y broses o godi safonau yn ysgolion Cymru a'r gallu i gynnal lefel o gysondeb gydag un athro cyflenwi yn gweithio ar draws grŵp o ysgolion fel bod yr athro'n dod i adnabod yr ysgolion a'r disgyblion hynny'n well. Ar y llaw arall, un o fanteision y cynllun peilot sy'n cael eu harchwilio gennym ar hyn o bryd, rwy'n credu, yw bod y disgyblion yn dechrau datblygu perthynas gydag un person penodol. Yn amlwg, bydd yr agweddau hyn yn rhan o'r gwerthusiad o'r cynllun peilot a gobeithio y bydd yn rhoi'r wybodaeth inni ynglŷn ag a ddylid ymestyn y cynllun peilot hwn i gynnwys Cymru gyfan ac a ddylai fynd y tu hwnt i ddefnyddio athrawon sydd newydd gymhwyso fel athrawon cyflenwi fel y mae'n gwneud ar hyn o bryd yn y cynllun peilot penodol hwnnw, ac a ddylid cymhwyso hynny ar gyfer y gweithlu athrawon cyflenwi yn ei gyfanrwydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n rhannu'r pryderon a fynegwyd gan fy nghyd-Aelodau Angela Burns a Caroline Jones, ac rwy'n parhau i ymdrin â gwaith achos gan athrawon cyflenwi anniddig yn fy etholaeth. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag athro cyflenwi a ddywedodd wrthyf am achos brawychus lle mae asiantaeth gyflenwi'n cynnig cymhellion honedig, megis tocynnau i gemau rygbi rhyngwladol, i benaethiaid er mwyn hyrwyddo eu busnes. A ydych yn ystyried bod hyn yn briodol, ac os nad ydych, pa ymyriadau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith?
Diolch yn fawr iawn, Vikki. Buaswn yn falch iawn o gael tystiolaeth gan eich etholwr, ar sail ddienw pe bai hynny'n gwneud i'r unigolyn deimlo'n fwy cyfforddus, fel bod modd ymchwilio i hyn. Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Caroline, yn ogystal â gweithio gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gynhyrchu fframwaith caffael cryfach nag sydd gennym ar hyn o bryd yn fy marn i, rwyf wrthi'n ystyried cyflwyno system, fel y dywedais, a fyddai'n caniatáu ar gyfer safonau sicrwydd ansawdd gorfodol gan asiantaethau cyflenwi. Pe baem yn dilyn y llwybr hwn, byddai angen i unrhyw asiantaeth fasnachol sy'n dymuno cyflenwi athrawon dros dro i ysgol a gynhelir yng Nghymru fodloni gofynion penodol. Credaf y byddai'r safonau achrededig hynny'n cefnogi ysgolion, athrawon cyflenwi a hefyd—y pwynt pwysig—ansawdd addysgu a dysgu, a gallai edrych o bosibl ar sicrhau nad yw arferion tebyg i'r rhai rydych newydd eu hamlinellu yn dderbyniol.