Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd unrhyw fwlch yn y cyllid ar gyfer twf rhanbarthol os ceir Brexit 'dim bargen'. Mae'r warant hon yn cynnwys prosiectau'r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau, os yw Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni ei haddewid o 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn, mai cyfrifoldeb a methiant Llywodraeth Cymru fydd hynny?