Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Wel, rwy'n meddwl bod fy nghyfaill i yn arwain ar hwn, ond beth y gallaf i ei ddweud yw, rwy'n meddwl bod yna ffynonellau eraill lle y gallwn ni geisio sicrhau ein bod ni'n cael mwy o'r arian yna i mewn i Gymru. Ond rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni bwysleisio nad cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hi i roi arian i mewn i ymchwil a datblygu. Mae'n rhaid i'r sector preifat hefyd roi eu dwylo nhw yn eu pocedi nhw. Os ydych chi'n edrych dros y byd, rŷm ni'n gwario tua 1.5 y cant o'n GDP ni yn llwyr ar R&D; yn yr Unol Daleithiau, maen nhw'n gwario tua 3 y cant. Felly, mae ffordd gyda ni i fynd i wella faint o arian—. Mae'r gwahaniaeth mwyaf yn dod oherwydd nad yw’r sector preifat yn y wlad yma efallai yn rhoi cymaint o’u harian nhw i mewn i’r system.