Lleoedd Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:10, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mewn perthynas ag athrawon iaith Gymraeg, lle rwyf ychydig yn fwy cyfarwydd â ble y ceir problemau, mewn perthynas ag athrawon cynradd, credaf ein bod ar y trywydd iawn mwy na thebyg ac mae gennym ddigon o athrawon. Mae gennym broblem, fel sydd gan bobl ar draws y blaned gyfan, o ran recriwtio athrawon i addysg uwchradd. Rydym yn rhoi camau ymarferol iawn ar waith i sicrhau ein bod yn gallu denu pobl newydd i'r proffesiwn ac i wneud yn siŵr fod gennym safonau o ansawdd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr Ysgrifennydd addysg yr wythnos diwethaf wedi nodi argymhellion clir iawn o ran sut y byddwn yn gwella ansawdd yr addysgu yng Nghymru.