Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Weinidog, yn amlwg, mae'n newyddion da fod ysgolion newydd yn agor i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru gyfan. Ond un peth sy'n bwysig iawn yw'r gallu i gyflenwi athrawon o ansawdd i'r ysgolion hynny allu addysgu'r cwricwlwm. Gyda datganoli cyflogau ac amodau athrawon, pa ddadansoddiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r nifer o gamau y gallai eu rhoi ar waith i unioni prinder yn yr ardal benodol hon? Oherwydd, fel y dywedais, nid oes fawr o bwynt o gwbl mewn cael ysgolion newydd os nad oes gennym athrawon i addysgu'r gwersi.