Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:53, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym ni yn UKIP yn credu y byddai llawer o fyfyrwyr yn well eu byd o ddilyn llwybr arall tuag at eu gyrfa ddewisol; mewn geiriau eraill, dylid cysylltu addysg yn agosach â chyflogadwyedd yn hytrach na chymwysterau addysgol pur. O ystyried ystadegau fel y rhai a ddyfynnwyd yn adran Cymru o'r arolwg o sgiliau cyflogwyr yn 2017, sy'n dangos cynnydd sylweddol yn y gyfran o swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn y sector adeiladu, er enghraifft—mae tua 40 y cant o'r swyddi gwag yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn deillio o brinder sgiliau—onid yw'n bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi llawer mwy o bwyslais yn awr ar roi addysg alwedigaethol i'n plant?