Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwario tua £40 miliwn y flwyddyn ar athrawon cyflenwi, gyda'r rhan fwyaf ohono'n mynd i asiantaethau, sy'n codi gormod ar ysgolion heb dalu digon i staff. Ni allwn ymdopi heb athrawon cyflenwi, ond fel y mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru wedi pwysleisio, mae athrawon cyflenwi'n tueddu i gael eu trin yn eithriadol o wael o ran cyflog, amodau gwaith a diffyg parch cyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo heddiw i ariannu ac ehangu'r prosiect athrawon cyflenwi, sy'n gweld clystyrau o ysgolion yn rhannu athrawon sydd newydd gymhwyso i gyflenwi dros staff sy'n absennol, gan leihau ein gorddibyniaeth ar asiantaethau athrawon?