Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Wel, Mark, nid wyf yn meddwl bod yna un ateb sy'n addas i bawb; mae'n dibynnu'n fawr iawn ar anghenion plant unigol, ac yn wir, ar farn rhieni'r plant unigol hynny ynglŷn ag a ydynt am i'w plant gael eu haddysgu yn eu cymuned, a'r cohort o fewn y gymuned, neu a fyddai'r plentyn yn elwa mwy o leoliad arbenigol iawn. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig wrth inni symud drwy ein rhaglen drawsnewid ADY yw bod ysgolion o ba fath bynnag yn cael eu paratoi i ymdrin yn effeithiol ag anghenion dysgu ychwanegol yn ei amrywiol ffurfiau a'u bod yno i ymateb yn briodol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial llawn. Yr hyn sy'n heriol yn achos SenCom yw bod hwn yn grŵp penodol o blant ag anghenion penodol iawn, a thrwy weithio gyda'i gilydd, mae SenCom wedi gallu darparu tîm amlddisgyblaethol i ddarparu'r cymorth arbenigol iawn hwnnw. Ond mae'n gwbl hanfodol i'n rhaglen drawsnewid ADY mai'r plentyn sy'n cael y lle canolog.