Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb hwnnw i Caroline. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol, dair blynedd yn ôl, fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cynnal ymchwiliad i'r holl ddarpariaeth o athrawon cyflenwi, ac un gost nad yw bob amser yn cael ei chydnabod yw'r effaith y mae athro cyflenwi'n ei chael ar ganlyniadau disgyblion, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig a'r cysylltiadau ag ymddygiad gwael disgyblion. Nawr, o'r tua 20 o argymhellion a wnaed gennym, cafodd y rhan fwyaf ohonynt naill ai eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor, ac un ohonynt oedd ymrwymiad i wneud gwaith ymchwil i effeithiau gwaith athrawon cyflenwi ar y meysydd penodol hyn, h.y. canlyniadau disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig ac ymddygiad disgyblion. A ydych wedi gallu ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwnnw neu a yw'n rhan o waith y clystyrau y sonioch chi wrth Caroline amdanynt?