Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi.
Mae'n ffaith bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi'i amddifadu o fuddsoddiad yn y gorffennol. Ers 2011, tua 1 y cant yn unig o'r gwariant ar wella rheilffyrdd ledled Cymru a Lloegr a wnaed ar lwybrau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy fynnu'n gadarn fod rheilffyrdd Cymru'n cael eu hariannu'n briodol. Yn gynharach yr wythnos hon, mewn ymateb uniongyrchol i sylwadau parhaus a llafar gan Lywodraeth Cymru, mae Network Rail wedi datgelu pot o arian cyhoeddus gwerth £2 biliwn rhwng 2019 a 2024 ar gyfer llwybrau Cymru a'r gororau sydd wedi'u tanariannu yn y gorffennol. Dyma'r tro cyntaf i'r cynllun ariannu ar gyfer y llwybr, sy'n cynnwys Cymru a chysylltiadau cyfagos yn Lloegr fel Amwythig, gael ei ddatblygu o dan system ranbarthol ddatganoledig Network Rail. Mae'r cynllun ariannu yn gynnydd o 28 y cant ar y ffigur ar gyfer y cyfnod cyllido pum mlynedd diwethaf, a bydd yn cefnogi buddsoddiad Trafnidiaeth Cymru o £5 biliwn dros 15 mlynedd.
Mae'n ffaith bod llwybr Cymru a'r gororau wedi'i amddifadu o arian ers blynyddoedd lawer, er gwaethaf galw cynyddol a chynnydd o tua 50 y cant yn nifer y teithwyr dros y degawd diwethaf. Felly, hoffwn gydnabod ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i drafnidiaeth a seilwaith yn ei ymdrechion penderfynol a strategol i sicrhau bod gan fy etholwyr yn Islwyn a ledled Cymru reilffordd sy'n wirioneddol addas at y diben yn yr unfed ganrif ar hugain. O dan y Llywodraeth hon, bydd hyn yn digwydd.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicr o fod yn drobwynt yn hanes datganoli a hanes y rheilffyrdd yng Nghymru. Felly, gadewch inni fod yn onest: ni chafodd y rhwydwaith a'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru eu hadeiladu gyda'r prif nod o gludo pobl. Fe'u hadeiladwyd yn ystod chwyldro diwydiannol mawr oes y Frenhines Victoria er mwyn gwasanaethu diwydiannau chwyldroadol Cymru a oedd yn arwain y byd, sef glo, dur a haearn. Cafodd y gwasanaethau ac yn ddiweddarach, y llwybrau i deithwyr a ddatblygodd wedyn, eu chwalu gan doriadau Beeching yn y 1960au.
Felly, ar ôl sefydlu datganoli, roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o hwyluso teithio effeithiol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a chreu Trafnidiaeth Cymru. Mae'n gywir dweud hefyd fod y potensial i drawsnewid cymunedau Islwyn yno o fewn ein gafael yn wir. Ac fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, mae fy mewnflwch, llythyrau a negeseuon gan etholwyr wedi gresynu'n gyson ac yn briodol at berfformiad gwael a'r diffyg cysur wrth deithio o dan weithredwr blaenorol y fasnachfraint, Trenau Arriva Cymru. Rwyf wedi cyflwyno'r rhain a materion eraill i Ysgrifennydd y Cabinet ar sawl achlysur yn y Siambr. Felly, byddaf yn trin y feirniadaeth gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr ddoe am fis cyntaf—pedair wythnos gyntaf—gweithgarwch Trafnidiaeth Cymru, a chyfleustra gwleidyddol pur y fath feirniadaeth, â'r sinigiaeth y mae'n ei haeddu.
Mae'n gywir dweud bod gan Trafnidiaeth Cymru agenda wirioneddol drawsnewidiol. Bydd bron i £5 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod 15 mlynedd y contract, a bydd yn cynnwys cynlluniau i wario £194 miliwn ar welliannau i orsafoedd, gan gynnwys adeiladu pum gorsaf newydd, a glanhau gorsafoedd yn drylwyr. Mae hyn yn drawsnewidiol i Gymru. Er nad yw creu gorsafoedd rheilffordd newydd yn fater datganoledig o hyd, rwy'n meddwl tybed beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet am y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cael y pwerau hyn, sy'n allweddol ar gyfer ehangu ôl-troed y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rwy'n credu, o'r ddadl gref dros agor gorsaf eto yng Nghrymlyn. I gymunedau fel Crymlyn, bydd agor gorsaf newydd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn cynnig cyfleoedd economaidd go iawn ac yn gwella potensial pwll glo rhestredig Navigation o ran treftadaeth a thwristiaeth, yn ogystal ag ymladd y frwydr strategol yn erbyn llygredd cerbydau. Felly, i'ch dyfynnu chi, Ysgrifennydd y Cabinet,
'Nid prosiect trafnidiaeth traddodiadol mo'n cynlluniau ni—nhw fydd y gwreichionyn fydd yn tanio adfywiad economaidd ehangach. Rhaid iddyn nhw helpu unigolion, busnesau a chymunedau y mae angen system trafnidiaeth integredig a dibynadwy arnynt i'w helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, i helpu eu busnesau i ehangu ac i ddenu buddsoddiad newydd i'w trefi.'
Mae cymunedau Islwyn eisoes yn gyfarwydd â'r manteision sy'n deillio o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i'n rheilffyrdd. Ddegawd ar ers ailagor rheilffordd Glyn Ebwy, gwelodd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ei bod wedi bod yn hynod lwyddiannus yn cynyddu mynediad at y farchnad swyddi a lleihau nwyon tŷ gwydr. Roedd ailagor y rheilffordd yn hwb gwirioneddol, nid yn unig i economi Glynebwy, ond hefyd i ardaloedd megis Trecelyn, Crosskeys, Rhisga a Phontymister yn fy etholaeth. Mae ailagor y rheilffordd hon wedi darparu llawer gwell cysylltedd â Chaerdydd, boed ar gyfer gwaith neu hamdden, i lawer o fy etholwyr. Er bod hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn ymwybodol iawn, ers imi gael fy ethol, fy mod wedi ymgyrchu'n gryf dros gysylltiadau rheilffordd gwell o Islwyn i mewn i Gasnewydd.
O'r holl gynigion rhagorol sydd wedi'u cynnig yn y fasnachfraint newydd hon, rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad y bydd gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Rwy'n gwybod y bydd y newyddion yn cael croeso gan lawer iawn o fy etholwyr sy'n cymudo i mewn i Gasnewydd yn rheolaidd. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn hwb sylweddol i'r economi yng Ngwent, pa un a ydynt yn cymudo ar gyfer gwaith neu bleser. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae nifer o fy nghyd-Aelodau hefyd wedi ymgyrchu drosto a chaiff groeso mawr ganddynt hwythau hefyd, a chan y South Wales Argus, rwy'n siŵr, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers 2002 dros ailagor y rheilffordd i Gasnewydd.
Rwy'n falch iawn hefyd o glywed bod dros 50 y cant o'r cerbydau trenau newydd mawr eu hangen yn mynd i gael eu cynhyrchu yma yng Nghymru, yng Nghasnewydd. Bydd y buddsoddiad o £800 miliwn yn gwella ansawdd ein trenau'n ddramatig a bydd hefyd yn gwella cydnerthedd yn ystod tywydd garw, fel rydym wedi'i brofi yr hydref hwn. Bydd y cyhoeddiad o 300 o swyddi ar y safle hwn yn cael croeso mawr, ynghyd â 600 o swyddi newydd yn Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â 450 o brentisiaethau. Hoffwn ofyn felly beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i unigolion ar draws Cymru, gan gynnwys mewn ardaloedd fel Islwyn. Diolch.