– Senedd Cymru am 5:50 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Mae hynny'n dod â ni at y ddadl fer. Rydw i'n galw ar Rhianon Passmore i gyflwyno y cynnig yn ei henw hi ar Drafnidiaeth Cymru. Rhianon Passmore.
Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Rhianon.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi.
Mae'n ffaith bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi'i amddifadu o fuddsoddiad yn y gorffennol. Ers 2011, tua 1 y cant yn unig o'r gwariant ar wella rheilffyrdd ledled Cymru a Lloegr a wnaed ar lwybrau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy fynnu'n gadarn fod rheilffyrdd Cymru'n cael eu hariannu'n briodol. Yn gynharach yr wythnos hon, mewn ymateb uniongyrchol i sylwadau parhaus a llafar gan Lywodraeth Cymru, mae Network Rail wedi datgelu pot o arian cyhoeddus gwerth £2 biliwn rhwng 2019 a 2024 ar gyfer llwybrau Cymru a'r gororau sydd wedi'u tanariannu yn y gorffennol. Dyma'r tro cyntaf i'r cynllun ariannu ar gyfer y llwybr, sy'n cynnwys Cymru a chysylltiadau cyfagos yn Lloegr fel Amwythig, gael ei ddatblygu o dan system ranbarthol ddatganoledig Network Rail. Mae'r cynllun ariannu yn gynnydd o 28 y cant ar y ffigur ar gyfer y cyfnod cyllido pum mlynedd diwethaf, a bydd yn cefnogi buddsoddiad Trafnidiaeth Cymru o £5 biliwn dros 15 mlynedd.
Mae'n ffaith bod llwybr Cymru a'r gororau wedi'i amddifadu o arian ers blynyddoedd lawer, er gwaethaf galw cynyddol a chynnydd o tua 50 y cant yn nifer y teithwyr dros y degawd diwethaf. Felly, hoffwn gydnabod ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i drafnidiaeth a seilwaith yn ei ymdrechion penderfynol a strategol i sicrhau bod gan fy etholwyr yn Islwyn a ledled Cymru reilffordd sy'n wirioneddol addas at y diben yn yr unfed ganrif ar hugain. O dan y Llywodraeth hon, bydd hyn yn digwydd.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicr o fod yn drobwynt yn hanes datganoli a hanes y rheilffyrdd yng Nghymru. Felly, gadewch inni fod yn onest: ni chafodd y rhwydwaith a'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru eu hadeiladu gyda'r prif nod o gludo pobl. Fe'u hadeiladwyd yn ystod chwyldro diwydiannol mawr oes y Frenhines Victoria er mwyn gwasanaethu diwydiannau chwyldroadol Cymru a oedd yn arwain y byd, sef glo, dur a haearn. Cafodd y gwasanaethau ac yn ddiweddarach, y llwybrau i deithwyr a ddatblygodd wedyn, eu chwalu gan doriadau Beeching yn y 1960au.
Felly, ar ôl sefydlu datganoli, roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o hwyluso teithio effeithiol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a chreu Trafnidiaeth Cymru. Mae'n gywir dweud hefyd fod y potensial i drawsnewid cymunedau Islwyn yno o fewn ein gafael yn wir. Ac fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, mae fy mewnflwch, llythyrau a negeseuon gan etholwyr wedi gresynu'n gyson ac yn briodol at berfformiad gwael a'r diffyg cysur wrth deithio o dan weithredwr blaenorol y fasnachfraint, Trenau Arriva Cymru. Rwyf wedi cyflwyno'r rhain a materion eraill i Ysgrifennydd y Cabinet ar sawl achlysur yn y Siambr. Felly, byddaf yn trin y feirniadaeth gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr ddoe am fis cyntaf—pedair wythnos gyntaf—gweithgarwch Trafnidiaeth Cymru, a chyfleustra gwleidyddol pur y fath feirniadaeth, â'r sinigiaeth y mae'n ei haeddu.
Mae'n gywir dweud bod gan Trafnidiaeth Cymru agenda wirioneddol drawsnewidiol. Bydd bron i £5 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod 15 mlynedd y contract, a bydd yn cynnwys cynlluniau i wario £194 miliwn ar welliannau i orsafoedd, gan gynnwys adeiladu pum gorsaf newydd, a glanhau gorsafoedd yn drylwyr. Mae hyn yn drawsnewidiol i Gymru. Er nad yw creu gorsafoedd rheilffordd newydd yn fater datganoledig o hyd, rwy'n meddwl tybed beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet am y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cael y pwerau hyn, sy'n allweddol ar gyfer ehangu ôl-troed y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rwy'n credu, o'r ddadl gref dros agor gorsaf eto yng Nghrymlyn. I gymunedau fel Crymlyn, bydd agor gorsaf newydd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn cynnig cyfleoedd economaidd go iawn ac yn gwella potensial pwll glo rhestredig Navigation o ran treftadaeth a thwristiaeth, yn ogystal ag ymladd y frwydr strategol yn erbyn llygredd cerbydau. Felly, i'ch dyfynnu chi, Ysgrifennydd y Cabinet,
'Nid prosiect trafnidiaeth traddodiadol mo'n cynlluniau ni—nhw fydd y gwreichionyn fydd yn tanio adfywiad economaidd ehangach. Rhaid iddyn nhw helpu unigolion, busnesau a chymunedau y mae angen system trafnidiaeth integredig a dibynadwy arnynt i'w helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, i helpu eu busnesau i ehangu ac i ddenu buddsoddiad newydd i'w trefi.'
Mae cymunedau Islwyn eisoes yn gyfarwydd â'r manteision sy'n deillio o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i'n rheilffyrdd. Ddegawd ar ers ailagor rheilffordd Glyn Ebwy, gwelodd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ei bod wedi bod yn hynod lwyddiannus yn cynyddu mynediad at y farchnad swyddi a lleihau nwyon tŷ gwydr. Roedd ailagor y rheilffordd yn hwb gwirioneddol, nid yn unig i economi Glynebwy, ond hefyd i ardaloedd megis Trecelyn, Crosskeys, Rhisga a Phontymister yn fy etholaeth. Mae ailagor y rheilffordd hon wedi darparu llawer gwell cysylltedd â Chaerdydd, boed ar gyfer gwaith neu hamdden, i lawer o fy etholwyr. Er bod hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn ymwybodol iawn, ers imi gael fy ethol, fy mod wedi ymgyrchu'n gryf dros gysylltiadau rheilffordd gwell o Islwyn i mewn i Gasnewydd.
O'r holl gynigion rhagorol sydd wedi'u cynnig yn y fasnachfraint newydd hon, rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad y bydd gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Rwy'n gwybod y bydd y newyddion yn cael croeso gan lawer iawn o fy etholwyr sy'n cymudo i mewn i Gasnewydd yn rheolaidd. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn hwb sylweddol i'r economi yng Ngwent, pa un a ydynt yn cymudo ar gyfer gwaith neu bleser. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae nifer o fy nghyd-Aelodau hefyd wedi ymgyrchu drosto a chaiff groeso mawr ganddynt hwythau hefyd, a chan y South Wales Argus, rwy'n siŵr, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers 2002 dros ailagor y rheilffordd i Gasnewydd.
Rwy'n falch iawn hefyd o glywed bod dros 50 y cant o'r cerbydau trenau newydd mawr eu hangen yn mynd i gael eu cynhyrchu yma yng Nghymru, yng Nghasnewydd. Bydd y buddsoddiad o £800 miliwn yn gwella ansawdd ein trenau'n ddramatig a bydd hefyd yn gwella cydnerthedd yn ystod tywydd garw, fel rydym wedi'i brofi yr hydref hwn. Bydd y cyhoeddiad o 300 o swyddi ar y safle hwn yn cael croeso mawr, ynghyd â 600 o swyddi newydd yn Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â 450 o brentisiaethau. Hoffwn ofyn felly beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i unigolion ar draws Cymru, gan gynnwys mewn ardaloedd fel Islwyn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhianon Passmore am godi'r ddadl bwysig hon heddiw, a hoffwn ddiolch iddi am ei sylwadau a hefyd am gydnabod y newid mawr sydd i ddod i wasanaethau rheilffordd ar hyd a lled Cymru ac wrth gwrs, i'w hetholaeth hi yn Islwyn.
Credaf fod 14 Hydref y flwyddyn hon yn ddiwrnod hanesyddol i drafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymru, ac yn Islwyn, gyda lansio masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r gororau. O dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, dyma fydd y gwasanaeth rheilffyrdd cyntaf i gael ei wneud yng Nghymru, un a gynlluniwyd ac a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru. Ac fel y dywedodd Rhianon, bydd £5 biliwn o fuddsoddiad yn cael ei sianelu i seilwaith rheilffyrdd a gwasanaethau rheilffyrdd dros y degawd a hanner nesaf, gan sicrhau y bydd ein rhwydwaith yn cael ei drawsnewid.
Bwriedir gwario £800 miliwn ar gerbydau newydd i sicrhau, erbyn 2023, y bydd 95 y cant o siwrneiau ar 148 o drenau newydd sbon gyda'u hanner wedi'u hadeiladu yma yng Nghymru. Bydd yr arian hwnnw hefyd yn arwain at wario £738 miliwn ar foderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, i gefnogi cam nesaf y metro, a bydd yn rhedeg llawer mwy o drenau yr awr. Yn ogystal, gwerir £194 miliwn ar fuddsoddi mewn gorsafoedd—buddsoddiad a fydd yn sicrhau bod pob gorsaf yn cael ei gwella. Bydd 285 o wasanaethau ychwanegol ledled Cymru bob dydd o'r wythnos, ac ar ddydd Sul bydd 294 o wasanaethau ychwanegol.
Bydd 600 o swyddi newydd a 30 o brentisiaethau bob blwyddyn yn cael eu creu, a bydd y cyfleoedd hynny'n agored i bobl yng nghymunedau'r Cymoedd. Rwy'n awyddus i sicrhau bod depos, fel yr un sy'n cael ei greu yn Ffynnon Taf, yn estyn allan at gymunedau y tu hwnt i gyffiniau uniongyrchol Ffynnon Taf ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer prentisiaid ar draws cymunedau'r Cymoedd. Hefyd bydd 25 y cant o ostyngiad mewn allyriadau carbon ar draws y rhwydwaith. Cyflwynir tocynnau clyfar ledled Cymru ac ehangu teithio am ddim i gynnwys rhai o dan 11 oed, a thocynnau hanner pris i rai 16 i 18 mlwydd oed.
Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflawni trawsnewidiad arloesol i drafnidiaeth ledled y wlad ac yn Islwyn. Bydd cymunedau ar reilffordd Glyn Ebwy yn elwa o amrywiaeth o welliannau a gynlluniwyd gan Trafnidiaeth Cymru i'r rheilffordd. Cyflwynir cerbydau newydd, gan wella ansawdd a naws cyfleusterau i deithwyr o'u cymharu â'r hen gerbydau sydd gennym yn awr. Yn 2019, cyflwynir trenau wedi'u hadnewyddu i ychwanegu capasiti i'r rheilffordd, ac yn 2022, cyflwynir trenau newydd sbon gyda bordiau gwastad, Wi-Fi am ddim, socedi pŵer, gwybodaeth electronig i deithwyr, systemau aerdymheru a mwy o le ar gyfer beiciau.
Mae cynyddu nifer y gwasanaethau ar reilffordd Glyn Ebwy yn flaenoriaeth ar gyfer metro de Cymru. Y weledigaeth yw darparu pedwar gwasanaeth bob awr. Mae gwelliannau i seilwaith ar y rheilffordd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl dyblu nifer y gwasanaethau ar y rheilffordd o 2021, gan gynyddu i bedwar gwasanaeth yr awr erbyn 2024, a gallaf sicrhau Rhianon Passmore y byddaf yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gyflawni hyn. Erbyn mis Mai 2021, rydym yn bwriadu adfer y cysylltiad rheilffordd rhwng Glynebwy a Chasnewydd, a chyflwyno gwasanaeth newydd bob awr a fydd yn gwella mynediad cymunedau yn Islwyn at y rheilffyrdd, ac rwy'n falch iawn fod yr Aelod yn hapus gyda'r canlyniad hwn.
I gyd-fynd â hyn, bydd cynnydd sylweddol yn y capasiti a ddarperir gan y contract newydd, gyda'r bwriad o helpu mwy o bobl i gael sedd yn ystod yr adegau prysuraf. Yn wir, bydd nifer y seddi'n cynyddu 60 y cant. Mae'r contract yn sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru'n cael eu cosbi os oes raid i deithwyr sefyll am fwy nag 20 munud, ac yn ogystal, bydd gorsafoedd yn cael eu gwella'n sylweddol. Mae rhaglen estynedig o lanhau trylwyr yn cael ei rhoi ar waith, i'w dilyn gan osod Wi-Fi am ddim erbyn mis Rhagfyr 2020. Erbyn mis Rhagfyr 2022, byddwn yn adnewyddu llochesi platfform ac yn gosod sgriniau gwybodaeth newydd i deithwyr. Erbyn 2023, byddwn yn gosod cyfleusterau storio gwell ar gyfer beiciau.
Wrth gwrs, mae heriau peirianyddol sylweddol ynghlwm wrth reilffordd Glyn Ebwy, sy'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Network Rail a Llywodraeth y DU, a olygai na allem ei hychwanegu at y metro canolog ar y cam hwn. Fodd bynnag, mae datblygiad y cynllun bellach yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, ac mae eu harbenigedd technegol yn ychwanegu at waith Network Rail. Ein huchelgais o hyd yw parhau i dyfu'r gwasanaethau i bedwar trên yr awr, ac rwyf wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno opsiynau inni ar gyfer cyflawni hyn. Yn wir, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio drwy'r opsiynau, gan weithio gyda phartneriaid i nodi ffordd gosteffeithiol o gyflawni ein huchelgeisiau.
Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig deall bod hyn yn rhan o raglen fuddsoddi bwysig dros 15 mlynedd. Bydd ein dyheadau uchelgeisiol yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth ac ni chânt eu cyflawni dros nos. Ond rwy'n hyderus, erbyn 2023, y bydd pobl Islwyn a Chymru yn elwa ar y gwasanaeth rheilffyrdd gorau i deithwyr yn y DU.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.