Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Rydym yn disgwyl dysgu llawer iawn o'r astudiaeth PrEP rydym yn rhan ohoni—nid yn unig y bobl sy'n gofyn am brawf, oherwydd mae'n bwynt sy'n wir ledled y wlad, ond yr ymgysylltiad ehangach â gwasanaethau iechyd rhywiol. Felly, y pwynt ynglŷn â gwneud profion yn haws—mae'n rhan o geisio lleihau stigma yn ogystal. Mae yna her ynglŷn â phobl yn dod i fanteisio ar y profion sydd ar gael eisoes, felly po hawsaf y gwnawn hynny, po fwyaf y siaradwn amdano a dweud y gwir, y mwyaf tebygol y byddwn o weld pobl yn dod i wneud hynny. Ac wrth gwrs gallwn fod yn hyderus fod yna bobl yn byw yng Nghymru heb gael diagnosis o HIV, oherwydd canfuwyd rhai ohonynt drwy ddamwain yn ystod y profion PrEP. Roeddem yn meddwl y byddem yn canfod rhai, am ein bod mewn gwirionedd yn ceisio cyrraedd pobl sydd ag ymddygiad iechyd rhywiol mwy peryglus nag eraill. Dyna pam ein bod yn gwybod, hyd yn oed ymhlith y bobl sydd wedi mynd ar drywydd PrEP, fod gan bron un rhan o bump o'r bobl hynny heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol. Felly, mewn gwirionedd rydym yn ymdrin â'r boblogaeth gywir o bobl, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â digwyddiad Diwrnod AIDS y Byd Terrence Higgins yma yn y Senedd ddiwedd y mis hwn, a siarad am ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddileu HIV yma yng Nghymru.