Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe nodoch bwysigrwydd deall lefelau gwirioneddol HIV yng Nghymru, ac rwy'n meddwl, fel y dywedoch, fod nifer y bobl yr amcangyfrifir eu bod yn byw gyda HIV yma yn rhy isel yn ôl pob tebyg. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi cynhyrchu ystadegau sy'n ymwneud â'r DU yn ei chyfanrwydd, gyda dadansoddiad, ond ychydig iawn o ddata ystadegol a geir sy'n ymwneud â Chymru'n benodol. Ar wahân i edrych ar ddarparu profion mewn cymunedau a phecynnau profi, a fyddwch yn gwneud ymchwil pellach i ganolbwyntio ar Gymru er mwyn deall faint o bobl yng Nghymru sy'n HIV positif ac yn bwysicach, i weld a oes unrhyw rannau o Gymru â nifer fwy o bobl yn dioddef na rhannau eraill?