Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pobl hŷn a grwpiau eraill sy'n agored i niwed yn cael eu hannog hefyd i fanteisio ar y cynnig o frechlyn rhag y ffliw bob gaeaf. Cafwyd cryn bryder yng ngogledd Cymru ynglŷn â phrinder y brechlyn ar draws y rhanbarth, gan gynnwys yn fy etholaeth i, Gorllewin Clwyd. A ydych yn derbyn y posibilrwydd y gallai prinder roi bywydau pobl agored i niwed mewn perygl? A beth a wnewch i godi cyfraddau brechu ymhlith gweithwyr rheng flaen y GIG, lle mae cyfran sylweddol ohonynt yn mynd heb y brechlyn bob blwyddyn a gallent fod yn rhoi cleifion mewn perygl?