Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch ichi am y cwestiwn. Yn ddiweddar cyhoeddais nifer o ymyriadau i wella iechyd rhywiol yng Nghymru, gan gynnwys cynllun peilot ar gyfer cynnal profion ar-lein yn ardal bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda, a phrosiect i ddarparu profion hunan-samplu HIV i'r rhai sy'n mynychu clinigau proffylacsis cyn-gysylltiad. Bydd y gwaith hwn yn llywio datblygiadau yn y ddarpariaeth ledled Cymru yn y dyfodol.