Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Rwy'n falch iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hyn, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar o HIV yn hanfodol i sicrhau y gall unrhyw unigolyn sy'n cael prawf cadarnhaol ddechrau triniaeth cyn gynted â phosibl, ac mae cael amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer profi yn hanfodol iawn i wella diagnosis cynnar a chynnal iechyd a lles y bobl sy'n byw, neu a allai fod yn byw gyda HIV. Mae diagnosis hwyr o HIV yn achosi goblygiadau difrifol i iechyd yr unigolyn a gall arwain at gymhlethdodau difrifol sy'n peryglu bywyd. Yn anffodus, mae lefelau diagnosis hwyr o HIV yn dal yn uchel, gyda 43 y cant o'r holl achosion newydd yn cael diagnosis hwyr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, y tu hwnt i'r rhai rydych newydd eu hamlinellu—ac maent i'w croesawu yn wir—pa gamau gweithredu eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r nifer sy'n mynd am brofion diagnostig cynnar o HIV hyd yn oed ymhellach?