Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Roeddwn am ddefnyddio fy nghwestiynau cyntaf fel llefarydd i ymdrin â phroblemau mewn gofal cymdeithasol yn hytrach nag iechyd, fel symbol o ba mor bwysig ydyw i bobl ar draws y Siambr hon, yn enwedig yma yn ein plaid ni—. Rydym yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel partneriaeth gyfartal, heb fod un yn bwysicach na'r llall. Felly, a gaf fi gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: a yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal sy'n hanu o wledydd o fewn yr UE sy'n gweithio mewn cartrefi gofal yng Nghymru ar hyn o bryd, ac os felly, beth yw'r ffigurau hynny?